Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Ffyniant Cyffredin a Ffyniant Bro (30 munud) Ail-drefnwyd i eitem 6 
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Arferion Mabwysiadu Hanesyddol (30 munud)  
  • Gorchymyn Contractau Adeiladu (Eithrio) (Cymru) 2023 (15 munud) 
  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.05pm.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod wedi cytuno i gais gan y BBC i ffilmio yn yr oriel gyhoeddus yn ystod y datganiad ar Arferion Mabwysiadu Hanesyddol.

 

Dydd Mercher

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.40pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 2 Mai 2023  

 

·       Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Coroni Ei Fawrhydi Brenin Charles III (30 munud)

·       Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Rhaglen Gwella Niwrowahaniaeth (30 munud)

·       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio (30 munud) – Gohiriwyd tan 23 Mai

 

Dydd Mawrth 9 Mai 2023  

 

·       Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:  

 

Dydd Mercher 17 Mai 2023 –

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai – Digartrefedd (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl fer: Peter Fox (Mynwy) (30 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:

 

  • ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2) tan 6 Gorffennaf 2023;
  • cyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Mewnfudo Anghyfreithlon a osodwyd ar 31 Mawrth at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 15 Mehefin 2023;
  • cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig a osodwyd ar 11 Ebrill at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, ar gyfer craffu, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 22 Mehefin 2023;
  • cyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Gwarchodaeth rhag Aflonyddu ar sail Rhyw yn Gyhoeddus a osodwyd ar 17 Ebrill at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 18 Mai;
  • cyfeirio ymlaen llaw’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar gyfer craffu, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 22 Mai.

 

 

4.2

Gohebiaeth gan Gadeirydd Dros Dro Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch y Memorandwm Atodol (Rhif 2) ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr

 

5.

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Trefniadau Cyflwyno

 

Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes am y newidiadau sy’n ofynnol i’r trefniadau cyflwyno dros y pythefnos nesaf oherwydd gŵyl y banc ar 1 Mai ac 8 Mai.

 

Yn ogystal â’r newidiadau hynny, yn sgil y streic sydd wedi’i chynllunio ar gyfer dydd Gwener 28 Ebrill, bydd y balot ar gyfer cwestiynau llafar i'r Prif Weinidog, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd ar 9 a 10 Mai bellach yn cael ei gynnal ddydd Iau 27 Ebrill. Bydd cynigion y Llywodraeth ar gyfer dydd Mawrth 9 Mai hefyd yn cael eu cyflwyno erbyn dydd Iau 27 Ebrill.