Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr aelodau i'r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mercher
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn: Dydd Mawrth
28 Mawrth 2023 · Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar
Fil Cyfraith yr EU a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio (30 munud) · Dadl: Cyfnod Terfynol Bil yr
Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) (15 munud) Dydd Mawrth
25 Ebrill 2023 · Gorchymyn Contractau Adeiladu
(Eithrio) (Cymru) 2023 (15 munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar
y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos
nesaf: Dydd
Mercher 29 Mawrth 2023 – · Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog:
Pleidleisio drwy Ddirprwy (15 munud) · Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog:
Newidiadau Amrywiol (5 munud) Dydd
Mercher 3 Mai 2023 – · Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd
a Gofal Cymdeithasol: Cysylltu’r dotiau: mynd i’r afael ag anghydraddoldebau
iechyd meddwl yng Nghymru (60 munud) · Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid
Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Datgarboneiddio’r sector tai preifat (60
munud) · Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr
Cymreig (60 munud) · Dadl Fer: Carolyn Thomas (Gogledd
Cymru) (30 munud) |
|
Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a
chytunwyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 29 Mawrth: Tom Giffard NNDM8232 Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig i greu Bil twristiaeth Cymru. 2. Yn nodi mai pwrpas y Bil hwn fyddai: a) dirymu Gorchymyn Bwrdd Croeso Cymru (Trosglwyddo
Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Bwrdd) 2005; b) creu bwrdd twristiaeth newydd i Gymru; c) trosglwyddo swyddogaethau Croeso Cymru a grymoedd
Llywodraeth Cymru cysylltiedig i'r bwrdd newydd, gan gynnwys, ond heb fod yn
gyfyngedig i: i) annog pobl i ymweld â Chymru a phobl sy'n byw yng
Nghymru a'r Deyrnas Unedig i fynd ar eu gwyliau yno; ii) annog darparu a gwella mwynderau a chyfleusterau
twristiaeth yng Nghymru; iii) hyrwyddo cyhoeddusrwydd; iv) darparu gwasanaethau cynghori a gwybodaeth; a v) sefydlu pwyllgorau i'w cynghori ynghylch perfformiad
ei swyddogaethau. |
|
Deddfwriaeth |
|
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ynghylch amserlen Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen arfaethedig ar
gyfer craffu ar Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru). Wrth
wneud hynny, nododd y Pwyllgor Busnes y pwyntiau a godwyd yn y llythyr ynghylch
y potensial i gyflwyno Biliau eraill mewn meysydd o fewn cylch gwaith y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith yn ystod yr un cyfnod. Cydnabu’r Trefnydd yr angen i roi eglurder ar y materion
hyn a hysbysodd y Rheolwyr Busnes fod y Llywodraeth yn bwriadu cyflwyno Bil
Cydsynio Seilwaith cyn diwedd tymor yr haf, ac y bydd y Gweinidog Newid
Hinsawdd yn rhoi’r diweddaraf am ddiogelwch tomenni glo ar ffurf datganiad
ysgrifenedig yn ddiweddarach yr wythnos hon. |
|
Papur i’w nodi - Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio). Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr. |
|
Papur i’w nodi - Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i ymestyn
y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol atodol (Memorandwm Rhif 4) ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir
(Dirymu a Diwygio) i 27 Mawrth 2023, a hynny yn sgil symud y ddadl i 28 Mawrth. |
|
Papur i’w nodi - Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad mewn perthynas â Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023 Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr. |
|
Amserlen y Senedd |
|
Dyddiadau’r toriadau Cofnodion: Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad
hanner tymor yr hydref a thoriad y Nadolig 2023, a chytunodd ar y dyddiadau
dros dro ar gyfer toriad hanner tymor y gwanwyn a thoriad y Pasg 2024. Wrth wneud hynny, trafododd y Pwyllgor Busnes
argymhelliad 14 yn adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Cyfraith yr UE a
Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), a gynigiodd y dylai’r Pwyllgor Busnes “ystyried
ar fyrder a ddylid ymestyn tymor yr hydref i 22 Rhagfyr 2023, er mwyn darparu
ar gyfer cyfarfodydd ychwanegol o’r Pwyllgor hwn ac eisteddiadau Cyfarfod Llawn
ychwanegol a allai fod yn ofynnol ar gyfer ystyried rheoliadau sy’n deillio o’r
Bil”. Daeth y Pwyllgor Busnes i’r casgliad na fyddai’n gwneud
newidiadau i’r trefniadau ar gyfer toriad Nadolig 2023 ar hyn o bryd, o
ystyried nad yw ffurf derfynol y Bil na sut y byddai Llywodraeth Cymru yn
ymateb i’w ddarpariaethau yn hysbys eto, ond y byddai’n ystyried ailedrych ar y
mater hwn yn nes ymlaen yn y flwyddyn yn ôl yr angen. |
|
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Pasg 2023 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y papur a:
|
|
Y Rheolau Sefydlog |
|
Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: Pleidleisio drwy ddirprwy Cofnodion: Trafododd a chytunodd y Pwyllgor Busnes ar ei adroddiad,
a diwygiadau cysylltiedig i’r canllawiau, o’i ystyriaethau a’i gynigion ar
ddarpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno
cynnig ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 29 Mawrth. |
|
Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau amrywiol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ei adroddiad ar nifer o
newidiadau amrywiol i’r Rheolau Sefydlog, ac i gyflwyno cynnig ar gyfer dadl yn
y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 29 Mawrth. |