Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunwyd i amserlennu’r cynnig
canlynol i’w drafod ar 22 Mawrth:
Jack
Sargeant
NNDM8219
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu:
a) ei fod yn sgandal genedlaethol
bod 600,000 o bobl wedi cael eu gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu yn
2022 oherwydd na allent fforddio eu biliau ynni;
b) bod rheoleiddiwr ynni Ofgem wedi
methu â diogelu aelwydydd bregus drwy ganiatáu i gyflenwyr ynni osgoi gwiriadau
priodol;
c) y dylai'r rhai sy'n cael eu
gorfodi i ddefnyddio mesuryddion rhagdalu gael eu digolledu'n briodol gan
gyflenwyr ynni a'u newid yn ôl yn rhad ac am ddim.
2. Yn nodi:
a) y cafodd cyflenwad ynni 3.2
miliwn o bobl ei dorri y llynedd oherwydd eu bod wedi rhedeg allan o gredyd ar
eu mesuryddion rhagdalu;
b) y gallai biliau ynni cyfartalog
cartrefi godi hyd yn oed ymhellach, gan roi baich ychwanegol ar aelwydydd sydd
eisoes yn ei chael hi'n anodd oherwydd yr argyfwng costau byw.
3. Yn cydnabod cynllun peilot ynni
yn y cartref 2021-22 Llywodraeth Cymru, a oedd yn rhoi cyngor rhagweithiol a
chefnogaeth allgymorth i bobl a oedd, neu a oedd mewn perygl o fod, mewn tlodi
tanwydd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwasanaeth
cyngor ynni yn y cartref ledled Cymru i sicrhau bod pob cartref yn gallu cael y
cymorth a'r cyngor sydd eu hangen arnynt.