Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Jane Dodds AS. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Nid oes dim newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd y
Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn cymryd rhan o bell yn ystod
trafodion Cyfnod 3 ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus
(Cymru). Bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y Siambr ac yn gallu
cymryd yr awenau pe bai anawsterau technegol. Cadarnhaodd y Llywydd y bydd toriad technegol byr cyn
dechrau trafodion Cyfnod 3 er mwyn caniatáu i baratoadau terfynol gael eu
gwneud. Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes hefyd y bydd
ffotograffydd yn bresennol yn yr oriel gyhoeddus ar ddechrau Cyfarfod Llawn
heddiw i dynnu lluniau o gyfranogwyr y digwyddiad LeadHERship.
Dydd Mercher
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau
a ganlyn: Dydd Mawrth 14 Mawrth 2023 · Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Caffael (30 munud) - gohiriwyd tan 28
Mawrth Dydd Mawrth 21 Mawrth 2023 · Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein (30 munud) - gohiriwyd |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunwyd ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y
Senedd am y tair wythnos nesaf: Dydd Mercher 22 Mawrth 2023 –
Dydd Mercher 29 Mawrth 2023 –
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i symud Dadl Fer Carolyn
Thomas o 24 Mai i 17 Mai a cheisio llenwi'r slot Dadl Fer sydd bellach yn wag
ar 22 Mawrth. |
|
Deddfwriaeth |
|
Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes lythyr ynghylch y
tebygolrwydd y caiff Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol atodol pellach ar Fil
Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) ei osod yn hwyr a'r diffyg amser
craffu y bydd hyn yn ei olygu i bwyllgorau'r Senedd. Codwyd pryderon ynghylch y
dull a gymerwyd gan y Llywodraeth yn yr achos hwn i oedi cyn gosod Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar nifer o welliannau a wnaed yn San Steffan
sawl wythnos ynghynt. Nododd y Trefnydd y byddai ystyriaeth yn cael ei rhoi o
ran a fyddai'n bosibl symud y ddadl ar y Memorandwm hwn o 14 Mawrth i ddyddiad
diweddarach er mwyn caniatáu amser ychwanegol i graffu, neu ymestyn yr amser ar
gyfer y ddadl i 45 munud os nad yw hynny'n bosibl. |
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cafodd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar lafar gan y
Trefnydd ar lawer o Femoranda a chytunodd i:
Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad ymghylch Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac Adrodd am
Ddata) (Cymru) 2023 Nododd y Pwyllgor Busnes lythyr y derbyniodd gopi ohono
ar 6 Mawrth, a oedd wedi'i ddosbarthu ar wahân, gan Gadeirydd y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at y Gweinidog Newid Hinsawdd
ynghylch nifer o ddiffygion yn Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith (Casglu ac
Adrodd am Ddata) (Cymru) 2023, y disgwylir iddynt gael eu trafod yn y Cyfarfod
Llawn ar 14 Mawrth. Dywedodd y Trefnydd y byddai'r Gweinidog yn ystyried ac yn
ymateb i'r llythyr fel mater o flaenoriaeth. Cyfraniad gan Gareth Davies AS yn y Cyfarfod Llawn ar 1
Mawrth 2023 Cododd y Trefnydd gyfraniad a wnaed gan Gareth Davies AS
yn ystod Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn y Cyfarfod Llawn
ar 1 Mawrth, ynghylch darparu safleoedd i deithwyr, a gofynodd a oedd yr Aelod
wedi ymddiheuro am yr iaith a ddefnyddiwyd. Cadarnhaodd y Llywydd ei bod wedi
cael ymddiheuriad ac wedi ei dderbyn. |