Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

  • Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Strategaeth Arloesi (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddol (30 munud) Gohiriwyd tan 14 Mawrth
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Uwchgyfeirio ac ymyrraeth bellach i wella safon gwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (60 munud)

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.55pm.

 

Dydd Mercher 

Gwnaeth y Trefnydd gais i ddadleuon y gwrthbleidiau gael eu haildrefnu i alluogi Gweinidog y Gymraeg ac Addysg i ymateb i ddadl y Ceidwadwyr ar y Gymraeg. Ar y sail honno, gwnaed y newidiadau a ganlyn:

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 15 munud)
  • Dadl Plaid Cymru: Cysylltiadau diwydiannol (60 munud) Aildrefnwyd i eitem 6
  • Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Gymraeg (60 munud) Aildrefnwyd i eitem 7

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.25pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Yn dilyn trafodaeth am weithredu diwydiannol a gyhoeddwyd ar gyfer 15 Mawrth, cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 7 Mawrth 2023 

 

  • Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestri ac Apelau) (Cymru) 2023 (15 munud) Gohiriwyd tan 21 Mawrth 

 

Dydd Mawrth 14 Mawrth 2023 

  • Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd (45 munud) Symudwyd o 15 Mawrth
  • Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg (45 munud) Symudwyd o 15 Mawrth
  • Cwestiynau Amserol (20 munud) Symudwyd o 15 Mawrth
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y terfynau cyflymder 20mya diofyn (30 munud) Tynnwyd yn ôl 
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddol (45 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Yn dilyn trafodaeth am weithredu diwydiannol a gyhoeddwyd ar gyfer 15 Mawrth, cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 14 Mawrth 2023 -

·         Cwestiynau Amserol (20 munud) Symudwyd o 15 Mawrth

 

Dydd Mercher 15 Mawrth 2023 –

  • Cwestiynau Amserol (20 munud) Symudwyd i 14 Mawrth 
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) Gohiriwyd tan 22 Mawrth 
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) Gohiriwyd tan 22 Mawrth 
  • Dadl Fer: James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed) (30 munud) Gohiriwyd tan 22 Mawrth 

 

Dydd Mercher 22 Mawrth 2023 –

 

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) Symudwyd o 15 Mawrth 
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) Symudwyd o 15 Mawrth 
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) Gohiriwyd tan 29 Mawrth 
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) Gohiriwyd tan 29 Mawrth 
  • Dadl Fer: James Evans (Brycheiniog a Sir Faesyfed) (30 munud) Symudwyd o 15 Mawrth 
  • Dadl Fer: Carolyn Thomas (Gogledd Cymru) (30 munud) Gohiriwyd tan 24 Mai

 

 

3.4

Effaith gweithredu diwydiannol arfaethedig.

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes effaith gweithredu diwydiannol a gyhoeddwyd ar gyfer 15 Mawrth a chytunodd fel a ganlyn:

·         i aildrefnu cyfarfodydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i fore dydd Mawrth 14 Mawrth;

·         i ddiwygio amserlenni Busnes y Llywodraeth a Busnes y Senedd a amlinellir uchod, gyda'r effaith na fydd Cyfarfod Llawn yn cael ei drefnu ar gyfer dydd Mercher 15 Mawrth;

·         ddiwygio'r terfynau amser ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Llafar a Chwestiynau Amserol i'w hateb ar 14 Mawrth i ddydd Mawrth 7 Mawrth; a

·         diwygio'r terfynau amser ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Llafar a chynigion i’w trafod ar 22 Mawrth i ddydd Mawrth 14 Mawrth.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) - amserlen

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cyfeirio Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith i ystyried yr egwyddorion cyffredinol, a gohirio penderfyniad ar amserlen y Bil er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor cyn dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol. 

 

 

4.2

Ymateb gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl).

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb a gafwyd gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd i'w lythyr ynghylch gosod y Memorandwm yn hwyr a'r effaith a gaiff hynny ar yr amser sydd ar gael i graffu.

 

 

4.3

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 5) ar gyfer y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio).

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a phryderon y Pwyllgor ynghylch goblygiadau diwygiadau hwyr gan Lywodraeth y DU ar allu pwyllgorau i graffu ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol.

 

 

4.4

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch ei adroddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio).

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes argymhellion 5 a 14 a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn ei adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd at y ddau fater a godwyd ar yr adeg berthnasol.  Nodwyd yn arbennig y byddai angen ystyried gofynion Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) (o ran amser eistedd y pwyllgor a'r Cyfarfod Llawn) wrth gadarnhau dyddiadau ar gyfer tymor yr hydref a thoriad y Nadolig. 

 

 

4.5

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch Rheol Sefydlog 30A - cydsyniad mewn perthynas ag offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion y DU

Cofnodion:

Nododd Pwyllgor Busnes fod y Llywydd yn bwriadu ysgrifennu at y Prif Weinidog ynghylch ei disgwyliadau ar fater cydsyniad y Senedd mewn perthynas ag offerynnau statudol a wneir gan Weinidogion y DU.  Cydnabuwyd hefyd y byddai opsiynau ar gyfer adolygu Rheol Sefydlog 30A (ochr yn ochr â Rheolau Sefydlog cysylltiedig) yn cael eu dwyn i'r Pwyllgor Busnes maes o law fel rhan o'i raglen ehangach ar gyfer adolygiad gweithdrefnol.

 

 

4.6

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch adolygiad y Pwyllgor Busnes o’r weithdrefn Bil Aelod

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i ystyried diweddariad ar ei raglen waith gweithdrefnol dros yr wythnosau nesaf, ar ôl i'r gwaith presennol ar bleidleisio drwy ddirprwy ddod i ben, er mwyn rhoi ystyriaeth bellach i flaenoriaethu gwaith arall yn ymwneud ag adolygu ystod o faterion gweithdrefnol.

 

 

 

4.7

Papur i’w nodi - Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch gwaith craffu ar oblygiadau ariannol Biliau.

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes yr ohebiaeth ddiweddaraf rhwng Llywodraeth Cymru a'r Pwyllgor Cyllid ar y mater hwn.

 

 

5.

Adolygiad o bleidleisio drwy ddirprwy

5.1

Meysydd posibl ar gyfer ymestyn: materion i'w trafod

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr ymatebion i'w ymgynghoriad ag Aelodau ac ystod o faterion yn ymwneud â meysydd posibl ar gyfer ymestyn pleidleisio drwy ddirprwy fel rhan o'i adolygiad.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori ymhellach â'u grwpiau pleidiau ar sail consensws sy'n dod i'r amlwg ynghylch ymestyn darpariaethau pleidleisio drwy ddirprwy i gynnwys salwch neu anaf hirdymor Aelod, cyfrifoldebau gofalu am ddibynnydd sydd â salwch neu anaf hirdymor ac absenoldeb oherwydd profedigaeth, a dychwelyd at drafodaeth bellach yn ei gyfarfod ar 14 Mawrth.

Datganodd Darren Millar wrthwynebiad y Grŵp Ceidwadol i gadw neu ymestyn darpariaethau presennol pleidleisio drwy ddirprwy.