Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm.

 

Dydd Mercher

 

Tynnodd y Llywydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 10 munud)
  • Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 munud)

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.55pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Nid oes unrhyw newidiadau i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i wneud y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mercher 15 Chwefror 2023 -

 

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) Wedi’i symud o 8 Chwefror
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl fer: Russell George (Sir Drefaldwyn) (30 munud) Wedi’i symud o 8 Chwefror
  • Dadl fer: Sian Gwenllian (Arfon) (30 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) - amserlen

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Bil at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn trafod yr egwyddorion cyffredinol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ohirio penderfyniad ar amserlen y Bil, gan gynnwys cais y Llywodraeth am gyfnod byrrach i graffu yng Nghyfnod1, er mwyn ymgynghori â'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol. 

 

 

4.2

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr ynghylch statws presennol Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) a bwriad y Llywodraeth i gyflwyno Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol pellach yn cynnwys yr holl welliannau perthnasol a gyflwynwyd ar gyfer y Cyfnod Adroddiad yn Nhŷ'r Cyffredin.

 

 

5.

Busnes y Senedd

5.1

Y defnydd o ddadleuon 30 munud yn ystod amser y gwrthbleidiau

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes yr arfer presennol ynghylch trefnu dadleuon yn amser y gwrthbleidiau a chytunodd i ymgynghori â grwpiau cyn dychwelyd at y mater yn y cyfarfod canlynol.