Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar gwrdd ag undebau llafur y GIG (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud) Gohiriwyd tan 24 Ionawr
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) (15 munud) Gohiriwyd tan 14 Chwefror

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.30pm.

 

Dydd Mercher  

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 24 Ionawr –

 

·       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynyddu nifer y gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd mewn gofal sylfaenol a chymunedol (30 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud) wedi’i ohirio o 17 Ionawr

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y newidiadau a ganlyn i fusnes ar yr amserlen:

 

Dydd Mawrth 31 Ionawr –

 

·       Cwestiynau i Weinidog yr Economi (45 munud) Symudwyd o 1 Chwefror

·       Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud) Symudwyd o 1 Chwefror

·       Cwestiynau Amserol (20 munud) Symudwyd o 1 Chwefror

·       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd) (15 munud)

 

Dydd Mercher 1 Chwefror –

 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i wneud yr ychwanegiadau a ganlyn i'r amserlen:

 

Dydd Mercher 1 Chwefror –

 

  • Cwestiynau Amserol (20 munud) Symudwyd i 31 Ionawr
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 mun) Tynnwyd yn ôl
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) Gohiriwyd tan 8 Chwefror
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar absenoldeb disgyblion (60 munud) Gohiriwyd tan 8 Chwefror
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) Gohiriwyd tan 8 Chwefror
  • Dadl fer: Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) (30 munud) Gohiriwyd tan 8 Chwefror

 

Dydd Mercher 8 Chwefror 2023 –

 

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) Symudwyd o 1 Chwefror
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar absenoldeb disgyblion (60 munud) Symudwyd o 1 Chwefror
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) Symudwyd o 1 Chwefror
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl fer: Mike Hedges (Dwyrain Abertawe) (30 munud) Symudwyd o 1 Chwefror
  • Dadl fer: Russell George (Sir Drefaldwyn) (30 munud) Gohiriwyd tan 15 Chwefror

 

 

3.4

Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 25 Ionawr:

 

Rhun ap Iorwerth

NNDM8155

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig am Fil ar leihau ôl-troed carbon digidol

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) ymateb i’r angen i fod yn fwy effeithlon yn ein defnydd o ddigidol yng Nghymru, fel rhan o’r ymdrech i gyrraedd net sero, yn benodol o ran defnydd ynni i redeg platfformau digidol;

b) cynnwys strategaeth i ymdrin â data sy’n cael ei greu, eu gadw a’i brosesu mewn ffordd fwy effeithlon o ran defnydd ynni;

c) gosod targedau ar gyfer sicrhau bod canolfannau data yn rhedeg yn y modd mwyaf effeithlon, yn cynnwys drwy ddefnyddio ffynhonnellau ynni adnewyddadwy, a thrwy hynny gefnogi datblygu sector data gwyrdd yng Nghymru;

d) sicrhau bod cynaliadwyedd yn sail i bob penderfyniad a wneir wrth ymdrin â data gan gyrff cyhoeddus;

e) annog arloesi yn ddigidol i helpu i dad-garboneiddio ac i gyrraedd amcanion net sero cenedlaethol.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Gohebiaeth gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes bryderon Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch yr amserlenni ar gyfer craffu ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) oherwydd cafodd y Memorandwm ei osod yn hwyr.

 

Cadarnhaodd y Trefnydd y byddai’n ymateb i lythyr y Pwyllgor Busnes ar y mater hwn, ac y byddai’n anfon copi o’r ymateb hwnnw at y pwyllgorau.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch ymweliad y pwyllgor sydd ar y gweill

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cais i Aelodau’r Pwyllgor gael eu hesgusodi o'r Cyfarfod Llawn ar 26 Ebrill 2023, a chytunwyd arno.

 

 

6.

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Gweithredu diwydiannol ar 1 Chwefror

 

Bu’r Pwyllgor Busnes yn trafod yr effaith ar fusnes y Senedd yn sgil gweithredu diwydiannol a drefnwyd gan aelodau Undeb PCS ar gyfer dydd Mercher 1 Chwefror.

 

Yn unol â Rheol Sefydlog 11.5(iv), pleidleisiodd mwyafrif y Pwyllgor i symud busnes y Cyfarfod Llawn a amserlennwyd yn flaenorol ar gyfer 1 Chwefror, gyda'r effaith na fyddai Cyfarfod Llawn yn cael ei gynnal ar y diwrnod hwnnw. Fe bleidleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig yn erbyn aildrefnu busnes o 1 Chwefror.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i symud y Cwestiynau Amserol a’r Cwestiynau i Weinidog yr Economi a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i 31 Ionawr, ac i aildrefnu'r Ddadl Aelodau, dadl y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yr Amser a ddyrannwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig a'r Ddadl Fer ar gyfer dydd Mercher 8 Chwefror. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu dwy Ddadl Fer ar 15 Chwefror.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i symud y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Llafar i'w hateb ar 31 Ionawr i ddydd Mawrth 24 Ionawr, ac i symud y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Llafar a chynigion i'w trafod ar 8 Chwefror i ddydd Mawrth 31 Ionawr.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y gallai’r Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai gynnal eu cyfarfodydd fore Mawrth 31 Ionawr yn lle’r cyfarfodydd sydd ar yr amserlen ar gyfer 1 Chwefror.

 

Adolygiad o’r darpariaethau ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy

Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau y bydd yr arolwg i lywio’r adolygiad presennol o’r darpariaethau ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy yn cau am ganol dydd, dydd Gwener 20 Ionawr.