Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn:
Gofynnodd
Siân Gwenllian bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ymestyn ymhellach yr amser a
ddyrannwyd i'r datganiad uchod , yn sgil y pwysau a welwyd ar y GIG dros gyfnod
y Nadolig. Nododd y Llywydd y byddai'n hyblyg o ran yr amseriadau er mwyn
sicrhau bod modd galw nifer digonol o'r Aelodau i wneud cyfraniadau.
Dydd Mercher
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr
ychwanegiadau a ganlyn i’r amserlen: Dydd Mawrth
24 Ionawr 2023 · Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac
Addysg: Gwella Ysgolion a'r Dirwedd Wybodaeth (30 munud) · Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac
Addysg: Cyfrifiad 2021 – Canlyniadau o ran y Gymraeg (30 munud) · Rheoliadau’r Dreth Gwarediadau
Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 (15 munud) · Rheoliadau Dyrannu Tai a
Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2023 (15 munud) Ystyriodd y
Pwyllgor nodyn ar y strwythur ac amseriad ar gyfer gwrandawiad cyntaf dadl
Ystyriaeth Gychwynnol ar Fil Cydgrynhoi - Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru),
sydd wedi’i hamserlennu ar gyfer dydd Mawrth 17 Ionawr. |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i'r ychwanegiadau canlynol i'r amserlen: Dydd
Mercher 1 Chwefror 2023 -
|
|
Deddfwriaeth |
|
Rheoliadau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Rheoliadau at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r
Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid i graffu arnynt, a gofynnod i'r pwyllgorau
adrodd erbyn dydd Llun 23 Ionawr 2023 i alluogi'r rheoliadau i gael eu
hystyried gan y Senedd ddydd Mawrth 24 Ionawr 2023. |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd i:
|
|
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
Busnes y llythyr a'r pryderon a fynegir mewn perthynas â hwyluso amserlen Bil
Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru). Nododd y Llywydd ei
bod wedi cwrdd â Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad ym mis Rhagfyr a chytunodd y bydd swyddogion yn drafftio adroddiad
i’r Pwyllgor Busnes yn manylu ar y gwersi a ddysgwyd o'r broses graffu ar y Bil
hwn, y gellir cyfeirio atynt pe bai unrhyw gais yn y dyfodol am hwyluso
amserlen i graffu ar Fil. |
|
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr a'r pryderon a godir gan y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch y goblygiadau posibl i'r Pwyllgor hwnnw, a
busnes y Senedd, a allai godi o ganlyniad i Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir
(Dirymu a Diwygio) a gyflwynwyd yn Senedd y DU. Awgrymodd
Darren Millar y gallai'r Pwyllgor Busnes fod am ystyried sefydlu pwyllgor
ychwanegol er mwyn ymateb i bryderon ynghylch capasiti craffu. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i fonitro datblygiadau a chynnal deialog gyda Llywodraeth
Cymru, gan gadw pob opsiwn ar agor. |
|
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Busnes yr
argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad
yn ei adroddiad ar y Bil a chytunodd i ymateb i dderbyn y ddau argymhelliad a
gyfeiriwyd at y Pwyllgor Busnes. |
|
Papur i’w nodi - gohebiaeth rhwng y Prif Weinidog a’r Pwyllgor Cyllid ynghylch gwaith craffu ar oblygiadau ariannol Biliau Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyrau a chytunodd i aros am ymateb pellach gan y Prif
Weinidog i'r Pwyllgor Cyllid cyn rhoi unrhyw ystyriaeth bellach i'r arfer o
bleidleisio ar y cynnig ynghylch y Penderfyniad Ariannol ar gyfer Biliau ar yr
un diwrnod â dadl Cyfnod 1. |