Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar, roedd Russell George yn bresennol yn ei le. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan David Rees.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn i fusnes dydd Mawrth: 

                                     

  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Cau Pont Menai (30 munud)
  • Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip: Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol (30 munud) - Tynnwyd yn ôl
  • Dadl: Adroddiad Blynyddol 2021-22 Comisiynydd y Gymraeg (60 munud) Gohiriwyd tan 15 Tachwedd

 

  • Ni fydd cyfnod pleidleisio.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.15pm.

Nododd y Llywydd y bydd ffotograffydd yn y Siambr ar ddechrau trafodion dydd Mawrth i dynnu lluniau newydd i'w defnyddio ar wefan y Senedd.

Dydd Mercher 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.45pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

 

Dydd Mawrth 8 Tachwedd -

 

·       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Wella Gwasanaeth Mamolaeth a Newydd-anedig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (30 munud) -Tynnwyd yn ôl

 

Dydd Mawrth 15 Tachwedd -

 

  • Dadl: Adroddiad Blynyddol 2021-22 Comisiynydd y Gymraeg (60 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 16 Tachwedd -

  • Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24 (30 munud)

 

Dydd Mercher 23 Tachwedd -

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) – Amserlen

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes yr amserlen ddiweddaraf sy'n adlewyrchu newidiadau i derfynau amser a gytunwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor:

 

 

 

4.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2021/22

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i ymateb i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i gytuno bod asesiadau o'r amser sydd ar gael i'r Senedd ystyried deddfwriaeth yn fater i Bwyllgor Busnes, ac anfon copi o'r ymateb hwnnw at y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad a'r Trefnydd.

 

 

5.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Gwaith Diwygio'r Senedd

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai ei gyfarfod ar 15 Tachwedd ddechrau am 8.45 i alluogi busnes safonol i gael ei ystyried cyn cychwyn y sesiwn gyhoeddus ar argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd. Mynegodd y Llywydd ei dewis i'r Pwyllgor gynnal y cyfarfod hwnnw wyneb yn wyneb.