Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth

  • Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymateb Llywodraeth Cymru i ddatganiad y Canghellor ar y Cynllun Ariannol Tymor Canolig (30 munud)
  • Rheoliadau’r Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 (15 munud) Tynnwyd yn ôl

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.40pm.

 

Dydd Mercher  

 

Gwnaeth y Trefnydd gais i’r Pwyllgor Busnes gytuno i drefnu dadl ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni ddydd Mercher 19 Hydref, gan atal Rheolau Sefydlog dros dro i ganiatáu i’r ddadl gael ei chynnal. Derbyniwyd y cais gan fod yr amserlen yn symud yn gynt ar gyfer pasio'r Bil yn San Steffan, gyda'r Bil wedi'i gyflwyno ar 12 Hydref a dyddiad arfaethedig ar gyfer Cydsyniad Brenhinol ar 25 Hydref. Oherwydd diffyg amser, cytunodd y Pwyllgor Busnes i beidio â chyfeirio'r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol i Bwyllgor ar gyfer gwaith craffu.

 

Yn sgil hynny, mae'r eitemau canlynol wedi'u hychwanegu at agenda dydd Mercher:

  • Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Prisiau Ynni (30 munud) 
  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.25pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

 

Dydd Mercher 26 Hydref –

  • Cynnig i Ethol Cadeirydd Dros Dro yn y Cyfarfodydd Llawn (5 munud)

 

 

Dydd Mercher 16 Tachwedd 2022 –       

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Cysylltedd digidol - band eang (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Pwysau costau byw (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 16 Tachwedd 2022 –       

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Cysylltedd digidol - band eang (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Pwysau costau byw (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

3.4

Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ddydd Mercher 26 Hydref 2022:  

 

NNDM8108 Sioned Williams

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil defnyddio budd-daliadau.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: 

a) sicrhau bod mwy o arian yn dod i bocedi pobl Cymru drwy gynyddu'r defnydd o daliadau cymorth Cymreig a thaliadau cymorth awdurdodau lleol;

b) gosod dyletswydd ar bob sefydliad sector cyhoeddus i hyrwyddo i'r eithaf y defnydd o fudd-daliadau Cymreig a budd-daliadau awdurdodau lleol;

c) ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus symleiddio a sicrhau cysondeb drwy Gymru o ran y dull o ymgeisio am fudd-daliadau o'r fath.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Bil Protocol Gogledd Iwerddon.

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cais am estyniad i'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno adroddiad ar y Cynnig ar Fil Protocol Gogledd Iwerddon. Yn seiliedig ar drefnu dadl ar y Cynnig ar gyfer 8 Tachwedd yn sgil yr amserlen ar gyfer y Bil yn San Steffan, daeth y Pwyllgor Busnes i’r casgliad nad yw’n bosibl ymestyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar hyn o bryd. Dywedodd y Trefnydd, os bydd yr amserlen seneddol yn newid, byddai’r Llywodraeth yn fodlon ailedrych ar yr amserlen ar gyfer craffu ar y Cynnig.

 

 

5.

Busnes y Senedd

5.1

Nodyn ar y Cadeirydd Dros Dro a rolau eraill sydd ar gael i gadeirio trafodion y Cyfarfod Llawn

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y papur ar y gwahanol rolau sydd ar gael i gadeirio trafodion, a chytunodd i gyflwyno cynnig bod Paul Davies AS yn cael ei ethol yn Gadeirydd Dros Dro Cyfarfodydd Llawn o dan Reol Sefydlog 6.23A, i'w ystyried ar 26 Hydref.

 

 

 

6.

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Nododd y Rheolwyr Busnes y trefniadau ar gyfer briff technegol ar waith presennol y Pwyllgor Busnes ar argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, a fydd yn cael ei gynnal ar 19 Hydref.