Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Video Conference via Zoom
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd
y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr
Busnes y bydd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog yr wythnos hon a
thynnodd sylw Rheolwyr Busnes at y newidiadau canlynol: Dydd Mawrth
Dydd Mercher
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth 4 Hydref 2022 – ·
Datganiad gan
Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip: Treftadaeth y Byd
yng Ngogledd-orllewin Cymru (30 munud) - gohiriwyd o 27 Medi Nododd y Trefnydd fod y Llywodraeth
yn ystyried a fyddai modd symud unrhyw eitemau o fusnes ymlaen o 11 Hydref i 4
Hydref er mwyn gwella cydbwysedd y busnes sydd wedi'i drefnu ar gyfer y
cyfarfodydd hynny. Dydd Mawrth 11 Hydref 2022 – ·
·
Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn
egwyddor i newid y cwestiynau llafar i Weinidog yr Economi ar 12 Hydref gyda
naill ai’r cwestiynau llafar i'r Gweinidog Newid Hinsawdd neu Weinidog y
Gymraeg ac Addysg, a drefnwyd ar gyfer 19 Hydref, yn amodol ar gael cadarnhad
gan y Llywodraeth. |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 19 Hydref 2022 –
|
|
Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl Cofnodion: Ystyriodd y
Pwyllgor Busnes y cynigion a gyflwynwyd a chytunodd i amserlennu’r cynnig
canlynol i’w drafod ar 5 Hydref. NNDM8074 Mark
Isherwood Cyd-gyflwynwyr: Rhun ap
Iorwerth Sam
Rowlands Tom Giffard
Mabon ap
Gwynfor Cynnig bod
y Senedd: 1. Yn nodi: a) yr
effaith a gaiff meigryn ar yr 1 ym mhob 10 plentyn a pherson ifanc sy'n byw
gyda'r cyflwr, gan gynnwys yn yr ysgol a'u bywydau o ddydd i ddydd; b) bod pobl
ifanc y mae meigryn yn effeithio arnynt yn aml yn nodi ei fod yn ei gwneud hi'n
anoddach i wneud eu gwaith ysgol, gan olygu y gall y cyflwr effeithio ar eu
cyrhaeddiad addysgol heb gymorth priodol, yn ogystal ag amharu ar eu bywyd
teuluol a chymdeithasol; c) bod
ymchwil gan y Migraine Trust yn awgrymu nad yw gweithwyr addysg a gweithwyr
iechyd proffesiynol yn aml yn deall meigryn, ac yn aml nid oes ganddynt
fynediad at hyfforddiant ac adnoddau i roi cefnogaeth effeithiol i blant a
phobl ifanc y mae'r cyflwr yn effeithio arnynt; 2. Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag'r Migraine Trust a chyrff cynrychioliadol
ar gyfer ysgolion, gwasanaethau iechyd, a rhieni/gofalwyr er mwyn: a)
cryfhau'r canllawiau; b) darparu
hyfforddiant ar sut i gefnogi a darparu ar gyfer pobl ifanc y mae meigryn yn
effeithio arnynt; a c) darparu
adnoddau i rieni/gofalwyr plant sy'n byw gyda meigryn ac i'r bobl ifanc eu
hunain ar sut i gymryd rheolaeth o'u gofal eu hunain. |
|
Deddfwriaeth |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith - Y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes yr
ohebiaeth a dderbyniwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd
a Seilwaith a chytunodd i ymateb i'r llythyr. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i beidio
â chyfeirio'r Bil at Bwyllgor cyfrifol i ystyried yr egwyddorion cyffredinol yn
sgil y gwaith y mae'r Pwyllgor wedi gallu ei wneud yn ystod yr wythnosau
diwethaf, ac i gytuno ar yr amserlen arfaethedig i ystyried y Bil. |
|
Adolygu Rheol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell |
|
Drafft o ganllawiau ar drafodion rhithwir a hybrid Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y
canllawiau yn amodol ar ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion ar yr elfennau sy'n
ymwneud â busnes pwyllgorau yn ei gyfarfod nesaf. Caiff y canllawiau diweddaraf
sy'n ymwneud â busnes y Cyfarfod Llawn eu cyhoeddi a'u darparu i'r Aelodau ar
ôl datrys ymholiad technegol yn ymwneud â'r defnydd o iPads gan yr Aelodau ar
gyfer pleidleisio, gyda'r canllawiau terfynol i ddilyn ar ôl ymgynghori â
Fforwm y Cadeiryddion. |
|
Unrhyw faterion eraill Cofnodion: Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol Rhoddodd y
Trefnydd ddiweddariad ar lafar ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol yn
ymwneud â Bil y Bil Hawliau a’r Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol. Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor na fydd Llywodraeth
Cymru'n cyflwyno Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Biliau hyn ar hyn o
bryd oherwydd ansicrwydd ynghylch eu taith yn San Steffan, ond bydd yn rhoi
diweddariad pellach unwaith y daw'r sefyllfa'n gliriach. Diwygio’r
Senedd Dywedodd y
Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y bydd papur yn cynnwys rhagor o fanylion am y
dull arfaethedig o ystyried materion yn ymwneud â Bil Diwygio'r Senedd sydd yn
yr arfaeth yn cael ei gyflwyno i'w ystyried yn y cyfarfod ar 4 Hydref, ac y
rhoddir cyfle i Reolwyr Busnes gael sesiwn friffio gyda swyddogion sy'n
cefnogi'r Pwyllgor Busnes cyn hynny. Amserlen y
Pwyllgorau Cododd Siân
Gwenllian fater yn ymwneud â chydamseru'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
a'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau
Rhyngwladol a’r effaith ar aelodau grŵp Plaid Cymru, oherwydd bod y
pwyllgorau'n gwneud defnydd rheolaidd o'u slotiau wrth gefn. Nododd y Pwyllgor
Busnes fod y newidiadau i'r amserlen wedi eu gwneud mewn ymateb i geisiadau'r
pwyllgorau am fwy o amser cyfarfod, ac nad oedd gwrthdaro ar hyn o bryd o ran
aelodaeth o fewn yr amserlen. Cytunwyd y byddai swyddogion yn trafod y mater
presennol yn uniongyrchol gyda'r pwyllgorau o dan sylw er mwyn nodi unrhyw
ddatrysidau ymarferol. |