Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newid a ganlyn: Dydd Mawrth
Dydd
Mercher Nododd y Pwyllgor Busnes fod
grŵp Llafur yn bwriadu newid yr aelod sydd ganddo ar y Pwyllgor Iechyd a
Gofal Cymdeithasol, o Mike Hedges i Sarah Murphy. Felly, tynnodd y Llywydd sylw'r
Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad canlynol at yr agenda ar gyfer y cyfarfod
yfory:
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr
ychwanegiadau a ganlyn: Dydd Mawrth
13 Medi 2022 – ·
Datganiad gan
y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig
Untro) (Cymru) (60 munud) ·
Datganiad gan
y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Ymgynghoriad ar Ardoll Ymwelwyr (45
munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 28 Gorffennaf 2022 –
|
|
Deddfwriaeth |
|
Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) - amserlen Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes yr
amserlen arfaethedig gan y Trefnydd a’r ohebiaeth a gafwyd gan Gadeirydd y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, a chytunwyd y dylai
penderfyniad gael ei wneud ynghylch a ddylai Bil gael ei gyfeirio at bwyllgor
cyfrifol i ystyried ei egwyddorion cyffredinol ar ôl iddo gael ei gyflwyno.
Felly, cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai’n dychwelyd i ystyried amserlen y
Bil ymhellach ar ddechrau tymor yr hydref, gan ystyried a fu modd gwneud unrhyw
waith ymgynghori cyhoeddus dros yr haf. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr yn ei thrafodaethau ar yr
amserlen ar gyfer Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru). |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Cafodd y
Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
cyfredol a chytunodd ar y canlynol:
Darparodd y Trefnydd ddiweddariad
ar lafar ar y rhaglen Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ehangach. |
|
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes yr ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn ymwneud ag
amserlen y llywodraeth ar gyfer cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru
2023-24. Oherwydd yr ansicrwydd ynghylch digwyddiad cyllidol a ragwelir gan
Lywodraeth y DU yn yr hydref, cytunodd y Pwyllgor Busnes ar amserlen
arfaethedig Llywodraeth Cymru, gan gynnwys dyddiad cau ar gyfer cyflwyno
adroddiad y pwyllgor, sef dydd Llun 6 Chwefror 2023. Wrth wneud hynny, nododd y
Pwyllgor Busnes y dynodiadau a roddwyd gan y Llywodraeth ei bod yn bosibl y
bydd modd addasu’r amserlen unwaith y bydd bwriadau Llywodraeth y DU yn fwy
clir. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais
y Pwyllgor Deisebau am ddadl ynghylch deiseb P-06-1276: Ymestyn adran 25B o
Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 ac i drefnu hyn ar gyfer dydd
Mercher 28 Medi. |
|
Adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell |
|
Canllawiau drafft cyntaf ar drafodion rhithwir a hybrid Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes ganllawiau drafft a luniwyd yn dilyn ei Adolygiad o Reol
Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell yn nhrafodion y Senedd, a chytunwyd ar sawl
newid yn ymwneud â’r lleoliadau y gall Aelodau bleidleisio ohonynt ac yn
ymwneud â’r trefniadau ar gyfer cyfranogiad Aelodau a Gweinidogion mewn
cyfarfodydd pwyllgor. Nododd y
Pwyllgor Busnes y bydd y canllawiau hefyd yn destun ymgynghori gyda Fforwm y
Cadeiryddion cyn eu cyhoeddi gan y Llywydd yn ystod yr hydref. Bydd rhagor o
wybodaeth am faterion technegol yn ymwneud â chyfranogiad a phleidleisio yn y
Cyfarfod Llawn yn cael ei darparu ar ddechrau tymor yr hydref. |