Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newid a ganlyn:
Dydd Mercher
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Ni wnaed unrhyw newidiadau i amserlen busnes y Llywodraeth
ar gyfer y tair wythnos nesaf. |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes
a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 21 Medi 2022 –
|
|
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 |
|
Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd ynghylch yr amserlen ar gyfer cyhoeddi’r gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol ar gyfer 2023-24 Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes ohebiaeth yn ymwneud â’r
amserlen ar gyfer cyhoeddi’r gyllideb ddrafft a’r gyllideb derfynol ar gyfer
2023-24. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid i ymgynghori
ynghylch yr amserlen arfaethedig a dychwelyd at y mater yn ei gyfarfod cyntaf
ym mis Medi. |
|
Atodiad A: Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid |
|
Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol |
|
Adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell |
|
Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell yn nhrafodion y Senedd Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adroddiad ar yr adolygiad
o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell yn nhrafodion y Senedd, a chytuno
arno, yn amodol ar welliant mewn perthynas â phresenoldeb mewn cyfarfodydd
pwyllgor y cytunir arnynt y tu allan i’r cyfarfod. Byddai’r Pwyllgor yn trafod
canllawiau drafft cychwynnol ar gyfranogiad mewn trafodion rhithwir a hybrid yn
ei gyfarfod nesaf. |
|
Y Rheolau Sefydlog |
|
Trafod yr adroddiad drafft ar ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rheolau Sefydlog Dros Dro 12.41 A-H ar Bleidleisio Drwy Ddirprwy Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adroddiad a chytunodd
arno. |
|
Rhaglen waith weithdrefnol |
|
Rhaglen waith weithdrefnol y Pwyllgor Busnes ar gyfer y Chweched Senedd Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y rhaglen waith weithdrefnol ar
gyfer tymor yr hydref a thu hwnt, gan gynnwys trafod nifer o argymhellion a
wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ac adolygiad o
drefniadau pleidleisio drwy ddirprwy. Nododd y Pwyllgor Busnes fod y ffenestr
lle gall y Pwyllgor ddylanwadu ar gyfarwyddiadau polisi Bil ar Ddiwygio’r
Senedd yn debygol o fod rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022, a chytunodd i drafod
papur manwl sy’n nodi materion yn ymwneud ag argymhellion y Pwyllgor mewn
cyfarfod dilynol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gyfarfod yn
gyhoeddus wrth ystyried materion gweithdrefnol, gan gynnal ymgynghoriad
cyhoeddus ar faterion perthnasol sy’n ymwneud â Diwygio’r Senedd, lle y bo’n
briodol. |
|
Y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd: Trafod argymhellion yr adroddiad Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y rhaglen waith weithdrefnol ar
gyfer tymor yr hydref a thu hwnt, gan gynnwys trafod nifer o argymhellion a
wnaed gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd ac adolygiad o
drefniadau pleidleisio drwy ddirprwy. Nododd y Pwyllgor Busnes fod y ffenestr
lle gall y Pwyllgor ddylanwadu ar gyfarwyddiadau polisi Bil ar Ddiwygio’r
Senedd yn debygol o fod rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022, a chytunodd i drafod
papur manwl sy’n nodi materion yn ymwneud ag argymhellion y Pwyllgor Diben
Arbennig mewn cyfarfod dilynol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gyfarfod yn
gyhoeddus wrth ystyried materion gweithdrefnol, gan gynnal ymgynghoriad
cyhoeddus ar faterion perthnasol sy’n ymwneud â Diwygio’r Senedd, lle y bo’n
briodol. |
|
Papur i'w nodi |
|
Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch y Memoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol ar gyfer Bil Banc Seilwaith y DU a’r Bil Masnach (Awstralia a
Seland Newydd). |