Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion:
Dydd Mercher
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth 28 Mehefin - ·
Datganiad gan
y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol ar gyfer
Pobl sy’n Gadael Gofal (30 munud) - aildrefnwyd ·
Datganiad
gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladu (30 munud) ·
Datganiad
gan Weinidog yr Economi: Mesurau Rheoli Ffiniau (30 munud) Dydd Mawrth
5 Gorffennaf - ·
Datganiad
gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu (60 munud) ·
Datganiad gan
y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol
(Cymru) (45 munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 6 Gorffennaf 2022 –
Dydd
Mercher 13 Gorffennaf 2022 – ·
Dadl Aelodau
o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Jane Dodds - Incwm Sylfaenol a'r newid i economi
ddi-garbon (60 munud) ·
Dadl y
Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24
(60 munud) ·
Dadl ar
adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Adnewyddu Rhaglen
Ddileu TB Buchol Cymru (30 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) |
|
Adolygu Rheol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell |
|
Darpariaethau Rheol Sefydlog 34 Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig
y caniateir i Reolau Sefydlog 34.2-4 (Llywydd Dros Dro Dynodedig) fynd yn
ddi-rym ar 1 Awst 2022 a bod Rheolau Sefydlog RhS 34.5-8 (Cadeirydd Dros Dro y
Cyfarfodydd Llawn) yn cael eu hymgorffori yn Rheol Sefydlog 6. |
|
Cyfranogi a phleidleisio o bell mewn Cyfarfodydd Llawn a phwyllgorau Cofnodion: Fel rhan
o'i adolygiad o Reol Sefydlog 34 (gweithdrefnau brys), ystyriodd y Pwyllgor
Busnes a ddylai cyfranogiad a phleidleisio o bell mewn Cyfarfodydd Llawn a
chyfarfodydd pwyllgorau barhau y tu hwnt i bandemig Covid-19. Wrth wneud hynny,
ystyriodd y Pwyllgor yr ymatebion a gafwyd gan Aelodau unigol, grwpiau
pleidiau, Fforwm y Cadeiryddion a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru. Cytunodd
y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:
Gofynnodd y
Pwyllgor Busnes hefyd am roi ystyriaeth bellach i'r angen parhaus am seibiannau
technegol cyn y cyfnod pleidleisio a'r defnydd o PIN ar gyfer pleidleisio, a
hefyd a ellid rhoi mwy o wybodaeth i grwpiau pleidiau o ran pa Aelodau sy'n
bresennol i bleidleisio. |