Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newid a ganlyn:
Dydd Mawrth
Dydd Mercher Nododd y Pwyllgor Busnes fod
grŵp y Ceidwadwyr yn bwriadu newid ei aelod ar y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad o Peter Fox i James Evans. Felly, tynnodd y Llywydd
sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad canlynol at yr agenda ar gyfer y
cyfarfod yfory:
Cafodd y Pwyllgor Busnes ei atgoffa
gan y Llywydd o’i bwriad ynghylch amser siarad a ddyrennir i Aelodau yn ystod y
ddadl 120 munud yfory ar adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r
Senedd. Gorchuddion wyneb Cafodd y Pwyllgor Busnes
ddiweddariad ar y sefyllfa o ran gwisgo gorchuddion wyneb ar yr ystâd. Gan nad
yw gwisgo gorchuddion wyneb bellach yn ofynnol wrth symud o gwmpas yr adeilad,
er bod defnyddwyr adeiladau'n cael eu hannog i barhau i wneud hynny mewn
sefyllfaoedd risg uwch, cytunodd y Pwyllgor y byddai defnyddio gorchuddion
wyneb yn y Siambr bellach yn fater o ddewis unigol i'r Aelodau. Cytunwyd y
byddai diweddariad cyffredinol ar ddefnyddio gorchuddion wyneb ar yr Ystâd yn
cael ei ddosbarthu i'r Aelodau. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Nid oes
unrhyw newidiadau i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos
nesaf. Tynnodd y Trefnydd sylw at y ffaith bod dadleuon a'r cyfnod
pleidleisio wedi'u trefnu cyn datganiadau gweinidogol ar 28 Mehefin oherwydd
bod darlith gyfansoddiadol yn cael ei chynnal y noson honno, ac y bydd pob
Aelod yn cael gwahoddiad. |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd
Mercher 29 Mehefin 2022 - ·
Datganiad
Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Cyfrifon Cyfunol
Llywodraeth Cymru 2020/21 (30 munud) ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Aros yn iach? Effaith yr
ôl-groniad o ran amseroedd aros ar bobl yng Nghymru (60 munud) ·
Dadl ar
Ddeiseb P-06-1277: Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty
Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan
arweiniad meddyg ymgynghorol ·
Amser a
neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Cafodd y
Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
cyfredol a chytunodd ar y canlynol:
|
|
Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd - Y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y llythyr. |
|
Llythyr gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - Y Bil Caffael Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor y llythyr. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i gais y Pwyllgor Deisebau am ddadl ar ddeiseb P-06-1277 Achub yr
Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw
gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol,
i'w hamserlennu ar 29 Mehefin. |
|
Unrhyw faterion eraill Cofnodion: Gofynnodd y
Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau bod ganddynt tan ddiwedd y dydd
ddydd Iau 9 Mehefin i ymateb i'r arolwg sy'n rhan o adolygiad y Pwyllgor Busnes
o Reol Sefydlog 34 a chyfranogiad o bell yn nhrafodion y Senedd. Gofynnodd
Darren Millar pryd y bydd balot nesaf y Bil Aelod yn cael ei gynnal. Dywedodd y
Llywydd y byddai'n ystyried cyngor cyn bo hir ac mai ei bwriad yw cynnal balot
arall cyn gynted â phosibl. |