Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Anfonodd
Jane Dodds ei hymddiheuriadau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Dywedodd y Llywydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd y Prif
Weinidog yn ateb Cwestiynau i'r Prif Weinidog yn rhithwir, gan ei fod yn
teithio ar fusnes swyddogol.
Dydd Mercher
Nododd y Pwyllgor Busnes mai dim
ond 9 cwestiwn a gyflwynwyd i'r Gweinidog Newid Hinsawdd i’w hateb yr wythnos
hon. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais gan aelodau’r Pwyllgor Diwylliant,
Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i newid trefn y dadleuon ddydd Mercher fel y gall Aelodau gyfrannu at
ddadl Plaid Cymru ar Iechyd Menywod, cyn teithio i ogledd Cymru ar gyfer busnes
pwyllgor. Byddai’r Pwyllgor Busnes yn dychwelyd at y drafodaeth ynghylch
egwyddorion absenoldeb Aelodau o’r Cyfarfod Llawn er mwyn gallu bod yn
bresennol ym musnes arall y Senedd mewn cyfarfod yn y dyfodol. Dywedodd y Trefnydd ei bod wedi
codi mater yn ymwneud â Gweinidogion yn bod yn bresennol yn y Siambr ar amser
ar gyfer eu heitemau busnes yn y Cabinet. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad a ganlyn: Dydd Mawrth
24 Mai 2022 ·
Datganiad
gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cyfiawnder yng Nghymru
(30 munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 8 Mehefin 2022 - ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd (120 munud) ·
·
Dydd Mercher 15 Mehefin 2022 -
|
|
Deddfwriaeth |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyr
gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r pwyntiau a godwyd
ynghylch y cyfleoedd ar gyfer Biliau Aelodau yn adroddiad diweddar y Pwyllgor
ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil Iaith Arwyddion
Prydain. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drafod papur yn ymwneud â’r potensial ar
gyfer adolygu proses ddethol Biliau Aelod. |