Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|||||||||||||||
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|||||||||||||||
Trefn Busnes |
|||||||||||||||
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd
sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:
Dydd Mawrth
Dydd Mercher Nododd y Pwyllgor Busnes bod Plaid
Cymru yn bwriadu newid ei haelod ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus o Cefin Campbell i Rhys ab Owen. Hefyd, cytunodd y
Pwyllgor Busnes i drefnu Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro i ganiatáu i’r
Ddadl Fer gael ei chynnal gan nad oedd y pwnc ar gyfer y ddadl wedi’i gyflwyno
erbyn y terfyn amser. Felly, tynnodd y Llywydd sylw'r
Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad canlynol at yr agenda ar gyfer y cyfarfod
yfory:
|
|||||||||||||||
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth
17 Mai 2022 - ·
Datganiad
gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud) ·
Rheoliadau
Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10)
2022 (15 munud) |
|||||||||||||||
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar y diwygiad a ganlyn i’r busnes ar yr amserlen: Dydd
Mercher 25 Mai 2022 – ·
Dadl ar Ddeiseb
P-06-1249: Darparu llwybr clinigol, gofal meddygol, ac arbenigwyr i bobl â
syndrom tourette yng Nghymru (30 munud)
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 8 Mehefin 2022 - ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar
orlifoedd stormydd yng Nghymru (30 munud) ·
Dadl ar adroddiad
y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Craffu blynyddol ar waith
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: Y wybodaeth ddiweddaraf (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) |
|||||||||||||||
Deddfwriaeth |
|||||||||||||||
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2022 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
gyflwyno adroddiad ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif
5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 10) 2022 erbyn bore
dydd Mawrth 17 Mai 2022. |
|||||||||||||||
Amserlen y Senedd |
|||||||||||||||
Dyddiadau toriadau Cofnodion: Cadarnhaodd
y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor yr hydref a Nadolig
2022, a chytunwyd ar ddyddiadau toriad dros dro ar gyfer hanner tymor y gwanwyn
a Phasg 2023.
* Dyddiadau
dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes. |
|||||||||||||||
Pwyllgorau |
|||||||||||||||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau - cais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais
y Pwyllgor Deisebau am ddadl ynghylch deiseb P-06-1249 Darparu llwybr clinigol,
gofal meddygol, ac arbenigwyr ar gyfer pobl â syndrom Tourette yng Nghymru,
i’w threfnu ar gyfer 25 Mai. |
|||||||||||||||
Unrhyw fater arall Cofnodion: Cynulliad Partneriaeth Seneddol Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai Alun Davies AS a Samuel Kurtz AS yn
cynrychioli’r Senedd yng nghyfarfod cyntaf Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU
a’r UE ar 12-13 Mai. Cytunodd y Pwyllgor y byddai’n dychwelyd at drafodaeth
ynghylch aelodaeth barhaol mewn cyfarfod yn y dyfodol. |