Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth
Dydd
Mercher
|
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth 10 Mai -
Dydd Mawrth 17 Mai -
Nododd y Pwyllgor Busnes fod trefn y cwestiynau i weinidogion ar 11 Mai
wedi'i haddasu, gyda chwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol yn dod cyn cwestiynau i Weinidog yr Economi. |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher
25 Mai 2022 – ·
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60
munud) ·
Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) |
|
Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynigion a gyflwynwyd a
chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 11 Mai 2022: NNDM7994 Alun Davies Cyd-gyflwynwyr Rhun ap Iorwerth Samuel Kurtz Jane Dodds Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi bod 90 mlynedd eleni ers yr Holodomor: y newyn a laddodd tua
4-6 miliwn o bobl yn Wcráin dros 1932/33. 2. Yn nodi ymhellach bod y newyn
hwn wedi digwydd o ganlyniad i weithredoedd a pholisïau bwriadol yr Undeb
Sofietaidd. 3. Yn mynegi ei chydymdeimlad ac yn estyn ei chydgefnogaeth i bobl
Wcráin ar ran pobl Cymru. 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gychwyn rhaglen goffáu i gofio dioddefwyr yr Holodomor ac i godi ymwybyddiaeth
o ddioddefaint pobl Wcráin. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w
drafod ar 25 Mai: NNDM7964 Jack Sargeant Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi: a) mai Llywodraeth Cymru oedd y gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng
hinsawdd, gan gydnabod y bygythiad difrifol y mae newid yn yr hinsawdd yn ei
achosi; b) bod cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yn parhau i fuddsoddi mewn
tanwydd ffosil ac, ers blynyddoedd lawer, mae ymgyrchwyr wedi annog cynlluniau
i ddadfuddsoddi; c) bod partneriaeth bensiwn Cymru wedi symud yn gyflym i dynnu
buddsoddiad o ddaliadau Rwsia yn ôl a'i fod wedi symud oddi wrth lo o'r blaen,
gan ddangos felly ei bod yn bosibl i gronfeydd pensiwn wneud y penderfyniadau
hyn; d) bod Aelodau'r Senedd wedi cymryd y cam cyntaf i symud eu cronfeydd
pensiwn eu hunain oddi wrth danwydd ffosil; e) pe bai cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn
dadfuddsoddi, Cymru fyddai'r wlad gyntaf yn y byd i gyflawni hyn, gan ddangos i
ddarparwyr cronfeydd yr angen i greu cynhyrchion buddsoddi di-danwydd ffosil. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
weithio gyda'r sector cyhoeddus i gytuno ar strategaeth i ddatgarboneiddio
pensiynau erbyn 2030, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â thargedau sero net
presennol y sector cyhoeddus. |
|
Rheolau Sefydlog |
|
Adolygiad o Reol Sefydlog 34 a chyfrannu at drafodion y Senedd o bell: dull arfaethedig Cofnodion: Cytunodd
y Pwyllgor Busnes ar y cylch gorchwyl a'r dull arfaethedig o gasglu tystiolaeth
ar gyfer yr adolygiad, gan gynnwys y dylai ystyried statws y darpariaethau sydd
wedi'u cynnwys ar hyn o bryd yn Rheol Sefydlog 34 (Gweithdrefnau Brys) a
pharhau i gymryd rhan o bell yn nhrafodion y Senedd yn y tymor canolig cyn
toriad yr haf. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylai'r sefyllfa yn y tymor
hwy o ran cyfranogiad a phleidleisio o bell, gan gynnwys ar gyfer tymhorau
Seneddau’r dyfodol, gael ei hystyried ymhellach ac y dylid ymgynghori arni yn
ddiweddarach yn ystod tymor y Senedd hon. |