Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod

 

 

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

                                  

Dydd Mawrth

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19 - Tynnwyd yn ôl
  • Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
  • Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2022 (15 munud)
  • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2022 (15 munud)

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.05pm.

 

Dydd Mercher 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.10pm. 

 

Trafododd y Pwyllgor y sefyllfa o ran gwisgo gorchuddion wyneb. Dywedodd y Llywydd y bydd y defnydd o orchuddion wyneb yn cael ei annog yn y Siambr.

 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 3 Mai 2022

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin (30 munud)

·         Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Presenoldeb Ysgol (30 munud)

·         Dadl:  Hawliau Dynol (60 munud)

 

Dydd Mawrth 10 Mai 2022

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19 (30 munud)

·         Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022 (15 munud)

 

Gwnaeth Sian Gwenllian gais am wybodaeth bellach ynghylch Rheoliadau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Rhannu Swydd a Chynorthwywyr Gweithrediaeth) 2022. Cytunodd y Trefnydd i ddarparu hyn yn dilyn y cyfarfod.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddileu’r eitem o fusnes a ganlyn:

                     

Dydd Mercher 4 Mai 2022 –

 

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

 

Roedd hyn ar y sail nad oedd unrhyw gynigion wedi dod i law i'r Pwyllgor Busnes ddewis ohonynt erbyn y terfyn amser diweddar. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'n ceisio osgoi pennu terfynau amser ar gyfer cyflwyno cynigion arfaethedig gan Aelodau yn ystod cyfnodau toriadau yn y dyfodol.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 18 Mai 2022 –

 

·         Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar bolisïau morol Llywodraeth Cymru (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad llafar am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd i:

 

  • gyfeirio'r Memorandwm ar y Bil Diogelwch Ar-lein at y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 21 Gorffennaf 2022.
  • nodi, gan na chyflwynwyd unrhyw welliannau i'w hystyried yn Nhŷ'r Arglwyddi i Fil Iaith Arwyddion Prydain, y bydd yn awr yn symud i Drydydd Darlleniad Tŷ'r Arglwyddi ar 27 Ebrill.
  • nodi bod y Memorandwm Atodol ar y Bil Iechyd a Gofal wedi'i osod ar 5 Ebrill a bod dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau y bore yma (26 Ebrill) wedi'i bennu yn y cyfarfod blaenorol.
  • nodi bod ystyriaeth o'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) yn San Steffan wedi dod i ben yn dilyn cyfnod Pwyllgor Tŷ'r Cyffredin ym mis Tachwedd. O ganlyniad, gwnaed y Bil yn destun cynnig cario drosodd ar 25 Ebrill ac felly bydd yn dychwelyd yn y sesiwn Seneddol nesaf.

 

 

4.2

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2022

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi adrodd ar y rheoliadau hyn cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn dydd Mawrth 26 Ebrill.

 

4.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir).

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr ac y rhoddir sylw i'r pryderon a godir fel rhan o drafodaethau parhaus am y broses Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol rhwng swyddogion Comisiwn y Senedd a swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth Cymru

 

4.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch ei adroddiad ar Fil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr ac argymhelliad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad mewn perthynas â diwygio'r Rheolau Sefydlog. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd i ystyried yr argymhelliad ymhellach os a phryd y caiff y Bil ei ddeddfu.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais Aelodau’r Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd i gael eu hesgusodi o'r Cyfarfod Llawn o 15:30 ar 27 Ebrill.

 

 

6.

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Cynulliad Partneriaeth Seneddol

Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Pwyllgor Busnes am ei dull arfaethedig o benodi dirprwyaeth dros dro o'r Senedd i gyfarfod y Cynulliad Partneriaeth Seneddol ar 12-13 Mai ym Mrwsel ac esboniodd y bydd, o ystyried yr amseru ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig, yn cysylltu â Chadeiryddion dau bwyllgor sydd â chylchoedd gwaith perthnasol i gynrychioli'r Senedd fel arsylwyr: Huw Irranca-Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad; a Paul Davies, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig. Unwaith y bydd y ddirprwyaeth wedi'i chadarnhau, byddai'r Llywydd yn hysbysu'r Pwyllgor Busnes.

Dywedodd y Llywydd y bydd yn cychwyn sgwrs yn ddiweddarach yn y tymor gyda'r Pwyllgor Busnes a Fforwm y Cadeiryddion ynghylch cyfansoddiad dirprwyaethau'r Senedd i'r CPA ac i'r Fforwm Rhyngseneddol yn y tymor hwy.

Rhoddodd y Llywydd ddiweddariad i'r Pwyllgor hefyd am y sefyllfa bresennol o ran enwebiadau'r Senedd ar gyfer dirprwyaeth y DU i Gyngres yr Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol yng Nghyngor Ewrop, nad ydynt wedi'u cadarnhau eto. Bydd y mater yn cael ei ddwyn yn ôl i'w drafod pe bai angen i'r Pwyllgor Busnes ei ystyried ymhellach.