Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Anfonodd y Llywydd ei hymddiheuriadau a chafodd y cyfarfod ei gadeirio gan y Dirprwy Lywydd yn ei lle.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Yn dilyn trafodaeth o fewn grŵp Plaid Cymru, gofynnodd Sian Gwenllian i'r Pwyllgor Busnes ddychwelyd at y mater o Aelodau'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol adael y Cyfarfod Llawn yn gynnar ar 18 Mai, y cytunwyd arno yn y cyfarfod blaenorol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drafod ymhellach yr egwyddor o ganiatáu i aelodau pwyllgorau adael y Cyfarfod Llawn yn gynnar er mwyn teithio ar gyfer busnes y pwyllgor yn ei gyfarfod nesaf.

 

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

                                  

Dydd Mawrth

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar
  • Covid-19 (30 munud) - tynnwyd yn ôl
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i Ffoaduriaid Wcráin (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar Ddiogelwch Adeiladau (45 munud) - tynnwyd yn ôl
  • Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn

gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (30 munud)

o   Rheoliadau Deddf Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022

o   Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2022

o   Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws)

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.55pm.

Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Dirprwy Lywydd fod amseriad y Cwestiynau i’r Prif Weinidog wedi'i newid oherwydd bod y Prif Weinidog yn mynd i Wasanaeth Diolchgarwch i’r Tywysog Philip yn Llundain. Bydd yn digwydd fel eitem 2 yn dilyn y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

 

Dydd Mercher 

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes y bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ateb cwestiynau llafar ar ran y Gweinidog Newid Hinsawdd.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes gais gan Blaid Cymru i newid ei haelod ar y Pwyllgor Safonau Ymddygiad o Heledd Fychan i Peredur Owen Griffiths. Dywedodd Darren Millar y gallai'r grŵp Ceidwadol hefyd wneud cais i newid ei aelodaeth o'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar yr un pryd ac y byddai hyn yn cael ei gadarnhau y tu allan i'r cyfarfod.

 

Felly, tynnodd y Dirprwy Lywydd sylw'r Pwyllgor Busnes at yr ychwanegiad canlynol at yr agenda ar gyfer y cyfarfod yfory:

 

  • Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 mun)

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm. 

 

Gofynnodd y Dirprwy Lywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau y disgwylir iddynt, fel y cytunwyd yr wythnos diwethaf, barhau i wisgo gorchuddion wyneb yn y Siambr yr wythnos hon, ac eithrio wrth siarad. Bydd nodyn hefyd yn cael ei ddosbarthu i bob Aelod.

 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 26 Ebrill 2022 -

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diweddariad ar Wcráin
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Adfer Gofal wedi'i Gynllunio
  • Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ariannu Swyddogion ychwanegol Cymorth Cymunedol yr Heddlu
  • Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Therapi Trosi
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal
  • Dadl:  Adroddiad Blynyddol Estyn 2020-21

 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 11 Mai 2022 –

 

·         Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

·         Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

·         Dadl Fer (30 munud)

 

Nododd y Pwyllgor Busnes ddyddiadau dros dro ar gyfer Dadleuon Aelodau a Chynigion Deddfwriaethol yr Aelodau ar gyfer tymor yr haf.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

 

Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd:

 

  • i nodi y bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Atodol diweddaraf (Rhif 5) ar y Bil Diogelwch Adeiladau y bore yma cyn y ddadl arfaethedig y prynhawn yma;
  • i gyfeirio'r Memorandwm Atodol (Rhif 4) ar y Bil Iechyd a Gofal at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar fore 26 Ebrill;
  • i aros am ddiweddariad pellach ar yr amserlen mewn perthynas â'r Bil Diogelwch Ar-lein.

 

 

 

5.

Amserlen y Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes fwriad y Pwyllgor i gynnal ei gyfarfod ychwanegol yr wythnos hon yn gyhoeddus yn hytrach na'i gais blaenorol i gwrdd yn breifat.