Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Anfonodd Darren Millar ei ymddiheuriadau. Roedd Russell George yno yn ei le.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiad a ganlyn:

Dydd Mawrth

 

  • Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Bwrw ymlaen ag argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ac adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar dribiwnlysoedd Cymru - Gohiriwyd

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw’r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.00pm.

Atgoffodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes fod grid seddi sefydlog bellach ar waith yn y Siambr ac mai dim ond y sedd a neilltuwyd iddynt y dylai Aelodau ei defnyddio. Yn ogystal, gofynnwyd i Reolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau i beidio ag addasu’r meicroffonau a sicrhau eu bod yn sefyll yn union o’u blaenau, fel y gellir clywed eu cyfraniadau.

Dywedodd y Llywydd hefyd y bydd y disgwyl i Aelodau wisgo gorchuddion wyneb yn y Siambr, ac eithrio pan fyddant yn siarad, tan o leiaf doriad y Pasg.

Dydd Mercher 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm. 

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 29 Mawrth 2022 –

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Gwaith Teg: diweddariad cynnydd blynyddol (45 30 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymru Iach (45 munud) - tynnwyd yn ôl

·         Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022 (15 munud)

·         Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Etholiadau (15 munud)

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes ei bod yn debygol y bydd Cwestiynau i’r Prif Weinidog yn cael eu cynnal yn hwyrach na’r arfer yn ystod y cyfarfod ar 29 Mawrth oherwydd argaeledd y Prif Weinidog.

Dywedodd y Trefnydd fod y llywodraeth yn bwriadu cynnal dadl ar reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022 ar 29 Mawrth. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio’r Rheoliadau at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad er mwyn craffu arno a’r dyddiad cau ar gyfer adrodd fydd bore 28 Mawrth.

Dydd Mawrth 26 Ebrill 2022 -

 

  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iaith Arwyddion Prydain (15 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud)

o   Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)

o   Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu)

 

Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd ar y Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol:

 

  • Bydd Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Etholiadau yn cael ei osod heddiw.  Cytunwyd y dylid pennu dyddiad cau ar gyfer adrodd, sef bore 29 Mawrth.  Byddai’r cynigion cydsyniad deddfwriaethol sy’n ymwneud â’r Bil hwn yn cael eu trafod yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw. 
  • Cytunodd y Pwyllgor Busnes i adolygu’r dyddiad cau ar gyfer adrodd ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Iaith Arwyddion Prydain i 26 Ebrill oherwydd bod amserlen y Bil yn San Steffan wedi cyflymu.
  • Disgwylir i Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (rhif 5) ar y Bil Diogelwch Adeiladau gael ei osod yr wythnos hon, a bwriedir cynnal y ddadl ar 29 Mawrth. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd ar bob Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil hwn i 29 Mawrth er mwyn rhoi pob cyfle i’r pwyllgor graffu arno.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 5 Mai 2022 –

 

·         Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)

·         Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

·         Dadl Fer (30 munud)

 

 

4.

Amserlen y Pwyllgorau

4.1

Llythyr gan y Cadeirydd at y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais i aelodau’r pwyllgor adael y Cyfarfod Llawn yn gynnar ar 18 Mai i’w galluogi i deithio i’r gogledd Cymru ar gyfer busnes y pwyllgor.

 

4.2

Adolygiad o amserlen a chylchoedd gorchwyl y pwyllgorau - adroddiad drafft

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr adroddiad drafft a chytunodd arno.

 

 

5.

Y Rheolau Sefydlog

5.1

Cymryd rhan yn y Cyfarfod Llawn o bell ac adolygu Rheol Sefydlog 34

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai cymryd rhan a phleidleisio o bell yn y Cyfarfod Llawn barhau ar ôl toriad y Pasg a chynhaliodd drafodaeth gychwynnol am y sefyllfa yn y tymor hwy. Cytunodd y Pwyllgor y dylai’r Ysgrifenyddiaeth gyflwyno cynigion manwl pellach yn gynnar yn nhymor yr haf ar gyfer cynnal adolygiad llawn o Reol Sefydlog 34 (Gweithdrefnau Brys) ac argaeledd cymryd rhan o bell a hybrid ym musnes y Senedd yn y dyfodol.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes hefyd fod angen adolygiad o Reol Sefydlog 12.41AH (Pleidleisio drwy Ddirprwy) cyn toriad yr haf hefyd.