Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyswllt: Graem e Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Trafododd y
Pwyllgor Busnes ymhellach y posibilrwydd o wneud 30 munud yn amseriad diofyn ar
gyfer datganiadau’r llywodraeth. Dywedodd y Trefnydd fod y llywodraeth wedi
cwtogi'r amser a neilltuwyd i rai datganiadau yn ystod yr wythnosau nesaf ac y
byddai'n parhau i adolygu hyn hyd nes doriad y Pasg. |
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth 22 Mawrth 2022 - ·
·
Dydd Mawrth 29 Mawrth 2022 – ·
Datganiad gan
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Covid-19 ( ·
Datganiad
gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diwygio Ardrethi Annomestig (30
munud) ·
Rheoliadau
Awdurdodau Lleol (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Chyhoeddi Gwybodaeth) (Cymru) 2022
(15 munud) ·
Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (30 munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 27 Ebrill 2022 – ·
Amser a neilltuwyd
i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Dadl Fer
(30 munud) |
|
Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 23 Mawrth 2022: NNDM7953
Mike Hedges Cynnig bod
y Senedd: 1. Yn nodi
bod adeiladau crefyddol, gan gynnwys eglwysi a chapeli, yn parhau i gael eu cau
ledled Cymru. 2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r
gwahanol enwadau yng Nghymru i drafod dyfodol yr adeiladau hyn. Cyd-gyflwynwyr Rhys ab
Owen Jane Dodds Darren
Millar Wedi’i
gefnogi gan Alun Davies Sam
Rowlands |
|
Deddfwriaeth |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Cafodd y
Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
cyfredol a chytunodd:
|
|
Amserlen y Senedd |
|
Dyddiadau Toriadau Cofnodion: Cadarnhaodd
y Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner
tymor y Sulgwyn a thoriad yr haf, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro ar
gyfer hanner tymor yr hydref a thoriad y Nadolig yn 2022. |
|
Trefniadau Cyflwyno yn Ystod Toriad y Pasg, Calan Mai a Hanner Tymor y Sulgwyn 2022 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes:
Nododd y
Trefnydd fod diwrnod braint i staff Llywodraeth Cymru ddydd Llun 6 Mehefin 2022
a gofynnodd nad oedd sesiynau craffu pwyllgorau gyda Gweinidogion yn cael eu
trefnu ar gyfer y diwrnod hwnnw. |
|
Amserlen y Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais
y Pwyllgor am slot cyfarfod ychwanegol ar 28 Mawrth. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais y
Pwyllgor am slot cyfarfod ychwanegol yn ystod yr wythnos yn dechrau ar 28
Mawrth. |
|
Enwebiadau i bwyllgorau Ewropeaidd Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes fod
gohebiaeth wedi’i chyfnewid rhwng Gweinidog Gwladol Llywodraeth y DU dros
Gydraddoldeb, Ffyniant Bro a Chymunedau a’r Llywydd ynghylch enwebiadau’r
Senedd ar gyfer dirprwyaeth y DU i’r Gyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol yng
Nghyngor Ewrop, a chytunodd i drafod y mater pellach unwaith y ceir ymateb gan
y Gweinidog. Gofynnodd y Pwyllgor Busnes i swyddogion am nodyn cefndir ar
enwebiadau blaenorol i Gyngor Ewrop. |
|
Llythyr gan y Gweinidog Gwladol dros Gydraddoldeb, Ffyniant Bro a Chymunedau |
|
Llythyr gan y Llywydd at y Gweinidog Gwladol dros Gydraddoldeb, Ffyniant Bro a Chymunedau |