Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Via Zoom
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Pwyllgor. Anfonodd
Jane Dodds a David Rees ymddiheuriadau. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor
Busnes at y newidiadau a ganlyn i fusnes dydd Mawrth:
Esboniodd y
Trefnydd fod Llywodraeth Cymru wedi gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol (Rhif 2) ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws) ar 3 Mawrth, ar ôl i'r
cynnig gwreiddiol ar gyfer y ddadl gael ei gyflwyno. Felly, er mwyn
sicrhau eglurder i'r Senedd, cafodd y cynnig ei dynnu yn ôl a'i ddisodli ar 7
Mawrth ac mae angen cynnig i atal y Rheolau Sefydlog er mwyn gallu trafod y
cynnig newydd.
Dydd Mercher
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth 15 Mawrth 2022 - ·
Datganiad
gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau Net Sero
Cyson y DU (45 munud) Dydd Mawrth 22 Mawrth 2022 - ·
Datganiad gan
y Gweinidog Newid Hinsawdd: Y Gronfa Tai â Gofal (45 munud) ·
Cynnig o
dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda
phleidleisiau ar wahân (15 munud)
·
Rheoliadau’r
Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol)
(Cymru) 2022 (30 munud) ·
Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau (30 Yng ngoleuni’r ffaith y rhagwelir nifer o achosion pan
fydd y Cyfarfod Llawn yn gorffen yn hwyr ar ddydd Mawrth, cynigiodd Darren
Millar y gallai fod yn fuddiol dychwelyd at amserlennu datganiadau’r
llywodraeth fel mater o drefn am 30 munud ac eithrio pan fydd diddordeb
sylweddol gan Aelodau. Trafododd y Pwyllgor Busnes oblygiadau hyn i nifer
yr Aelodau y byddai modd eu galw a chytunwyd y dylai'r Llywodraeth ystyried hyn
wrth iddi amserlennu busnes. |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 30 Mawrth 2022 - ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: 'Gwarchod y
Dyfodol: Y rhwystr gofal plant sy’n wynebu rhieni sy’n gweithio’ (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud) ·
Dadl fer -
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) (30 munud) |
|
Deddfwriaeth |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Cafodd y
Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
cyfredol a chytunodd:
|
|
Amserlen y Pwyllgorau |
|
Adolygiad o amserlen y pwyllgorau a chylchoedd gwaith y pwyllgorau Cofnodion: Adolygiad o
amserlen y Pwyllgor Rhoddodd y
Rheolwyr Busnes adborth o’u trafodaethau gyda grwpiau a chytunwyd ar y cynigion
ar gyfer amserlen ddiwygiedig i’r pwyllgorau i’w gweithredu ar ôl toriad y
Pasg, gan ymgorffori un newid i’r cynnig gwreiddiol (yn ymwneud ag amserlen
slot cyfarfod ar gyfer y Pwyllgor Cyllid Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus)
yn dilyn ymgynghoriad â Fforwm y Cadeiryddion. Bydd yr
amserlen ddiwygiedig yn rhoi slot cyfarfod bob pythefnos i'r mwyafrif o
bwyllgorau ond gyda slotiau wrth gefn wedi'u clustnodi ar gyfer cyfarfodydd
ychwanegol lle bo angen. Nid yw bellach yn cynnwys wythnosau
gwarchodedig. Bydd y
Pwyllgor Busnes yn llunio adroddiad yn manylu ar y broses adolygu a’r
canlyniad. |