Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Via Zoom
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth
Yn dilyn gohebiaeth a dderbyniwyd gan y Trefnydd, nododd
y Llywydd ei bod wedi rhoi ei chytundeb, yn unol â Rheol Sefydlog 33.8, y
gallai'r Senedd ystyried y Cynnig i Atal Rheolau Sefydlog heddiw yng ngoleuni'r
amserlenni ynghylch ystyried Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd yn
Senedd y DU. Cadarnhaodd y Llywydd ei bod wedi derbyn Cwestiwn Brys
i'w ofyn ar ddechrau'r Cyfarfod Llawn ar Wcrain. Dywedodd y Llywydd hefyd y byddai ffotograffydd yn bresennol
yn y Siambr am gyfnod byr ar ddechrau’r Cwestiynau i'r Prif Weinidog. Dydd Mercher
Fformat y Cyfarfod Llawn Cadarnhaodd y Llywydd y bydd cynllun eistedd sefydlog ar
waith ar gyfer y Cyfarfod Llawn o heddiw ymlaen, ar ôl dileu'r cyfyngiadau ar
nifer yr Aelodau sy'n gallu bod yn y Siambr ar unrhyw adeg. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau
a ganlyn: Dydd Mawrth 8 Mawrth 2022 -
Dydd Mawrth 15 Mawrth 2022 - ·
Dadl: Ail
Gyllideb Atodol 2021-22 (30 munud) ·
Dadl:
Diwygiad i Setliad Llywodraeth Leol 2021-2022 (15 munud) Gofynnodd Darren Millar a yw'n fwriad gan Lywodraeth
Cymru i wneud datganiad llafar ar y trefniadau ar gyfer erthyliad meddygol
cynnar gartref, yn dilyn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 24 Chwefror.
Cytunodd y Trefnydd i ddarparu rhagor o wybodaeth ar ffurf nodyn i Aelodau'r
Pwyllgor Busnes. |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes
a ganlyn ar yr amserlen: Dydd Mercher 23 Mawrth 2022 -
|
|
Dadl Aelodau: Dewis Cynigion ar gyfer Dadl Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol
i’w drafod ar 9 Mawrth 2022: NNDM7925 Mike Hedges Cynnig bod y Senedd: Yn cefnogi datganoli plismona. Cyd-gyflwynwyr Alun Davies Jane Dodds Delyth Jewell Rhys ab Owen Cefnogwyr Sarah Murphy |
|
Deddfwriaeth |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2022 Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn adrodd ar y rheoliadau hyn cyn y ddadl heddiw yn
y Cyfarfod Llawn. |
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf am y
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol a chytunodd:
|
|
Amserlen y Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cais i'r Pwyllgor Iechyd
a Gofal Cymdeithasol gynnal cyfarfod ychwanegol ar fore 28 Mawrth 2022. |
|
Unrhyw faterion eraill Cofnodion: Cafodd y Rheolwyr Busnes eu hatgoffa gan y Llywydd i
ymgynghori â'u grwpiau ar y diwygiadau arfaethedig i amserlen y pwyllgorau
gyda'r bwriad y bydd y Pwyllgor Busnes yn gwneud penderfyniadau yn y cyfarfod
yr wythnos nesaf. |