Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Pwyllgor |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth
Dydd Mercher Tynnodd y Llywydd sylw'r Pwyllgor
Busnes at y newid canlynol i fusnes dydd Mercher:
Trafododd y Pwyllgor Busnes
ailddechrau trafodion hybrid yn y Cyfarfod Llawn a'r trefniadau mewn perthynas
ag egwyl ac ymyriadau. Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes atgoffa eu Haelodau
eu bod yn cael eu cynghori'n gryf i wisgo masgiau yn y Siambr ar wahân i pan
maent yn siarad, ac i gymryd Profion Llif Unffordd cyn dod i ystâd y Senedd. Gofynnodd y Llywydd hefyd i Reolwyr
Busnes atgoffa eu Haelodau i gadw at derfynau amser o ran cyfraniadau yn y
Cyfarfod Llawn. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth
8 Chwefror 2022 -
·
·
Datganiad
gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Cap ar Brisiau Ynni (45 munud) Dydd Mawrth
15 Chwefror 2022 - ·
Rheoliadau
Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain (Cymru) (Diwygio) 2022 (15 munud) ·
Rheoliadau
Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Addasiadau Canlyniadol
a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022 (15 munud) ·
Rheoliadau
Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022 (15
munud) ·
Rheoliadau
Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2022 (15 munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 16 Chwefror 2022 -
Dydd
Mercher 2 Mawrth 2022 -
|
|
Dadleuon ar Gynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes i amserlennu’r cynigion canlynol i’w trafod: Dydd
Mercher 9 Chwefror 2022: NNDM7831
Mabon ap Gwynfor Cynnig bod
y Senedd: 1. Yn nodi
cynnig ar gyfer Bil ar reolaethau rhent. 2. Yn nodi
mai diben y Bil hwn fyddai: a) helpu i
fynd i'r afael â rhai o effeithiau mwy difrifol argyfwng
tai Cymru, sy'n effeithio ar dros filiwn o bobl ledled y wlad; b) lliniaru
cynnydd sylweddol mewn rhent yn y dyfodol, fel y cynnydd a welwyd yn y sector
rhentu dros y 12 mis diwethaf; c) cyflwyno
system sy'n cyfyngu ar renti a chynnydd mewn rhent i lefelau fforddiadwy a
ffactorau lleol, gan gau'r bwlch rhwng twf cyflogau a chostau byw. Dydd
Mercher 2 Mawrth 2022: NNDM7833
Alun Davies Cynnig bod
y Senedd: 1. Yn nodi
cynnig ar gyfer Bil i leihau effaith andwyol gorlifoedd stormydd. 2. Yn nodi
mai diben y Bil fyddai: a) gosod
dyletswydd ar ymgymerwr carthffosiaeth y mae ei ardal yn gyfan gwbl neu'n
bennaf yng Nghymru i sicrhau gostyngiad cynyddol yn effaith andwyol
gollyngiadau o orlifoedd stormydd yr ymgymerwr; b) lleihau
effeithiau andwyol gollyngiadau carthion ar yr
amgylchedd ac ar iechyd y cyhoedd; c) ei
gwneud yn bosibl i'r ddyletswydd ar ymgymerwr carthffosiaeth gael ei gorfodi
gan Weinidogion Cymru neu gan yr Awdurdod gyda chydsyniad awdurdodiad
cyffredinol a roddir gan Weinidogion
Cymru, neu'n unol â hynny. Dydd
Mercher 16 Mawrth 2022: NNDM7896
Janet Finch-Saunders Cynnig bod
y Senedd: 1. Yn nodi
cynnig ar gyfer Bil ar gynllunio morol yng Nghymru. 2. Yn nodi
mai diben y Bil hwn fyddai: a) gwneud
darpariaethau ar gyfer polisïau a fyddai'n helpu i lywio lleoliad datblygiadau
i ffwrdd o'r ardaloedd mwyaf sensitif o
safbwynt ecolegol, lleihau'r effeithiau cronnol ar gynefinoedd a rhywogaethau
sy'n agored i niwed, a rhoi mwy o sicrwydd i ddatblygwyr; b) creu
dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i hwyluso'r gwaith o greu cynllun datblygu morol
cenedlaethol, a'i adolygu o leiaf unwaith ym mhob Senedd; c) sefydlu
meysydd adnoddau strategol ar gyfer ynni morol; d) cyhoeddi
strategaeth ar gyfer gwrthdroi dirywiad adar môr; e) ei
gwneud yn ofynnol i ffermydd gwynt ar y môr gynnwys adfer cynefinoedd gwely'r
môr; strategaeth ar gyfer cynaeafu bwyd môr cynaliadwy o fewn ardal y
fferm wynt a mesurau gwella amgylcheddol. |
|
Deddfwriaeth |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Iechyd a Gofal at
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder
a’r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar fore 15
Chwefror 2022. |
|
Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu dadl ar ddeiseb P-05-949 Achub Ysgol
Ganolradd i Ferched y Bont-faen dydd Mercher 16 Chwefror 2022. |
|
Amserlen y Pwyllgorau |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
|
Busnes y Senedd |
|
Craffu ar Aelodau Dynodedig Cofnodion: Datganodd Sian Gwenllian fuddiant fel Aelod Dynodedig. Ystyriodd y Pwyllgor Busnes yr opsiynau
posibl ar gyfer hwyluso craffu ar waith Arweinydd Plaid Cymru ac Aelodau
Dynodedig ar y Cytundeb Cydweithio ymhellach, yn dilyn ymgynghoriad y Rheolwyr
Busnes â’u grwpiau. Roedd grwpiau’r Ceidwadwyr a Phlaid Cymru o
blaid cyflwyno mecanweithiau ar gyfer craffu ar waith Aelodau Dynodedig ac
Arweinydd Plaid Cymru yn y Cyfarfod Llawn. Nid oedd y grŵp Llafur a'r
Democrat Rhyddfrydol o blaid. Felly, nid oedd mwyafrif o blaid cynnig
unrhyw newidiadau i'r Rheolau Sefydlog. Fodd bynnag, nododd y Pwyllgor Busnes y
mecanweithiau presennol y gellir eu defnyddio ar gyfer craffu ar waith Aelodau
Dynodedig ac Arweinydd Plaid Cymru gan bwyllgorau'r Senedd. |