Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Pwyllgor. Anfonodd Jane Dodds ei hymddiheuriadau.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn i fusnes dydd Mawrth:

 

  • Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (15 munud)
  • Ni fydd Cyfnod Pleidleisio.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.45pm.      

 

Tynnodd y Llywydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y gwelliant a gyflwynwyd i’r Ddadl Aelodau, a dywedodd y byddai'n gwneud penderfyniad ar ddethol yfory.

 

Dydd Mercher  

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.00pm. 

 

Datganiadau o fuddiant ôl-weithredol

 

Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau mai eu cyfrifoldeb hwy yw gwneud unrhyw ddatganiadau angenrheidiol yn ystod eu cyfraniadau.

 

Fformat y Cyfarfod Llawn

 

Cytunodd y rhan fwyaf o'r Pwyllgor Busnes y dylai'r Cyfarfod Llawn ddychwelyd i gyfarfodydd hybrid gydag uchafswm o 30 o Aelodau ar y tro yn y Siambr o 1 Chwefror os yw'r gofyniad i weithio gartref, yn ôl y disgwyl, wedi'i godi.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ddychwelyd i drafod y trefniadau a ddylai fod yn gymwys, gan gynnwys cynnydd posibl i 60 o Aelodau, ar ôl y toriad hanner tymor mewn cyfarfod yn y dyfodol. Gofynnodd y Trefnydd am weld yr Asesiad Risg ar gyfer y Cyfarfod Llawn.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 1 Chwefror 2022 -

 

·         Dadl:  Adroddiad Effaith Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (60 munud) Wedi’i ohirio gan dymor yr haf

 

Dydd Mawrth 8 Chwefror 2022 -

 

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwiaethol ar Fil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol (15 munud)

 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 16 Chwefror 2022 -

 

  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes fusnes ar brynhawn dydd Mercher a gofynwyd i swyddogion ddrafftio papur opsiynau gyda'r bwriad o wella amrywiaeth y dadleuon.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2022

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar y rheoliadau erbyn dydd Llun 14 Chwefror 2022.

 

 

4.2

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Adeiladau a'r wybodaeth ddiweddaraf am Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol presennol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:

  • cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diogelwch Adeiladau at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 17 Mawrth 2022;
  • diwygio'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Iechyd a Gofal i fore 15 Chwefror 2022;
  • diwygio'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar gyfer y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau i fore 15 Chwefror 2022; a
  • nodi bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu ystyried y sefyllfa o ran Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd ymhellach unwaith y bydd mwy o eglurder ynghylch cynnwys y Bil yn San Steffan.

 

 

5.

Busnes y Senedd

5.1

Craffu ar Aelodau Dynodedig

Cofnodion:

Datganodd Sian Gwenllian fuddiant fel Aelod Dynodedig.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes yr opsiynau posibl ar gyfer hwyluso craffu ar waith Arweinydd Plaid Cymru ac Aelodau Dynodedig ar y Cytundeb Cydweithredu a chytunodd y dylai Rheolwyr Busnes ymgynghori â'u grwpiau a dychwelyd i drafod y mater ymhellach yng nghyfarfod yr wythnos nesaf.