Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Grame Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiad a ganlyn i fusnes dydd Mawrth:

 

  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Diweddariad ar COVID-19 (45 munud)
  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.30pm.      

Dydd Mercher  

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm. 

 

Fformat y Cyfarfod Llawn

 

Cytunodd y rhan fwyaf o'r Pwyllgor Busnes y dylai'r Cyfarfod Llawn barhau i gael ei gynnal yn rhithwir yn ystod yr wythnos yn cychwyn 24 Ionawr a dychwelyd i gyfarfodydd hybrid o 1 Chwefror os caiff y gofyniad i weithio gartref ei ddileu, fel y disgwylir, cyn hynny.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 25 Ionawr 2022 -

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gaffael (45 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Cyllid Hosbisau (45 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Cofio'r Holocost (45 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019/22 (45 munud)

 

Dydd Mawrth 1 Chwefror 2022 -

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Lansio Cronfa newydd Integreiddio Rhanbarthol Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)

·         Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Archwilio diwygio'r diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol (45 munud)

·         Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Mis Hanes LHDTC+ (45 munud)

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cymru ac Ewrop – rheoli perthynas newydd (45 munud)

·         Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2022 (5 15 munud)

·         Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 (5 10 munud)

·         Dadl:  Adroddiad Effaith Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (60 munud)

 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 9 Chwefror 2022 -

 

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

3.4

Dadl Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 26 Ionawr:

 

NNDM7880 James Evans

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi y cymerwyd 101 miliwn o deithiau bws yng Nghymru yn 2018/19, o'i gymharu â 129 miliwn yn 2004/05.

2. Yn nodi ymhellach nad oes gan 23 y cant o bobl yng Nghymru fynediad at gar neu fan.

3. Yn cydnabod bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol yng nghefn gwlad Cymru i atal pobl rhag teimlo'n unig ac ynysig.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) darparu cyllid hirdymor cynaliadwy i awdurdodau lleol er mwyn gwella gwasanaethau bysiau gwledig;

b) sicrhau bod cynghorau gwledig yn cael cyfran deg o fuddsoddiad yn y dyfodol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a chynlluniau teithio llesol;

c) gwarantu bod Strategaeth Fysiau Genedlaethol Cymru yn ystyried heriau unigryw trafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru;

d) blaenoriaethu buddsoddi mewn cerbydau trafnidiaeth gyhoeddus nad ydynt yn achosi allyriadau mewn ardaloedd gwledig.

 

Cefnogwyr:

Rhys ab Owen

Mabon ap Gwynfor

Natasha Asghar

Samuel Kurtz

Jack Sargeant

Carolyn Thomas

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 16 Chwefror:

 

NNDM7881

Rhys ab Owen

Jane Dodds

Llyr Gruffydd

 

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021 yn ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru, yn sicrhau dyletswydd i annog pobl leol i gymryd rhan mewn llywodraeth leol, ac yn galluogi cynghorau i gael gwared ar system y cyntaf i'r felin i ethol cynghorwyr;

b) y defnyddir system fwy cyfrannol mewn etholiadau lleol yn yr Alban, gan leihau nifer y seddi lle nad oes cystadleuaeth, a sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda chynghorau newydd a etholir ym mis Mai 2022 i sicrhau bod dull mwy cynrychioliadol a system genedlaethol unffurf yn cael eu defnyddio i ethol cynghorwyr ledled Cymru erbyn 2027.

 

Cefnogwyr

Rhun ap Iorwerth

Heledd Fychan

Peredur Owen Griffiths

Mabon ap Gwynfor

Sioned Williams

 

 

4.

Pwyllgorau

4.1

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru ac Ofcom

Cofnodion:

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i'w ystyried a rhoi sylwadau arno.  Gofynnwyd i swyddogion gysylltu â Llywodraeth Cymru am yr amserlen ar gyfer y gwaith hwn.

 

 

5.

Amserlen y Pwyllgorau

5.1

Y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad o amserlen y pwyllgorau

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y papur.

 

5.2

Ceisiadau pwyllgorau am gyfarfodydd ychwanegol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gyfarfod ychwanegol ar gyfer y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ddydd Iau 17 Chwefror. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd ar ddau gyfarfod ychwanegol ar gyfer y Pwyllgor Cyllid ddydd Gwener 11 Mawrth a dydd Gwener 28 Mawrth.