Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn i fusnes dydd Mawrth:

 

  • Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod yr eitemau a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (45 munud)
    • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021
    • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021
    • Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd - gohiriwyd tan 18 Ionawr

 

Cytunodd y Trefnydd hefyd i ymestyn yr amser a neilltuwyd i'r Ddadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2022-23 o 60 munud i 90 munud.

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.20pm.      

Dydd Mercher  

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.15pm. 

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig i ethol Sioned Williams yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Sian Gwenllian, yn dilyn ei phenodiad yn Aelod Dynodedig.

 

Fformat y Cyfarfod Llawn

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes fformat y Cyfarfodydd Llawn ar gyfer yr wythnosau nesaf. Cytunodd mwyafrif y bydd y Cyfarfod Llawn yn parhau'n rhithwir yr wythnos nesaf, gyda'r sefyllfa ar gyfer wythnosau i ddod yn cael ei hadolygu'n gyson.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 18 Ionawr 2022 -

 

·         Datganiad gan Weinidog yr Economi: Economïau Rhanbarthol Cryfach (45 munud)

·         Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn dilyn cyhoeddi 'Y Fasnach Gaethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig: Archwiliad o goffáu yng Nghymru’ (45 munud)

·         Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: BlasCymru/TasteWales – hyrwyddo bwyd a diod o Gymru i’r byd (45 munud)

·         Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cymorth Cyfreithiol a Mynediad at Gyfiawnder (45 munud)

·         Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân: (30 munud)

o   Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd: Cynnig 1

o   Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd: Cynnig 2

 

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ychwanegu dadl y Pwyllgor Deisebau ar 'Ddeiseb P-06-1243 Adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd' i 19 Ionawr yn lle 60 munud o'r 120 munud a neilltuir ar hyn o bryd i'r Ceidwadwyr Cymreig.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 26 Ionawr 2022 -

 

  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (5 munud)

Dydd Mercher 2 Chwefror 2022 -

 

  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi cyflwyno adroddiad ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021

 

4.2

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad wedi cyflwyno adroddiad ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021

 

 

4.3

Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022-23

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar Reoliadau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022-23 erbyn dydd Llun 31 Ionawr 2022.

 

 

4.4

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad ar Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 erbyn dydd Llun 31 Ionawr 2022.

 

 

4.5

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Iechyd a Gofal, y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd, y Bil Rheoli Cymhorthdal a'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:

  • cyfeirio'r Memorandwm Atodol (Rhif 2) ar y Bil Iechyd a Gofal at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 17 Chwefror 2022;
  • cyfeirio'r Memorandwm Atodol (Rhif 3) a'r Memorandwm Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r  Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad heb fod yn hwyrach na bore 18 Ionawr 2022;
  • cyfeirio'r Memorandwm Atodol (Rhif2) ar y Bil Rheoli Cymorthdaliadau at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 3 Mawrth 2022;
  • cyfeirio'r Memorandwm Atodol Diwygiedig (Rhif 2) ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 3 Mawrth 2022.

 

 

4.6

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i adolygu'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau ar gyfer pob pwyllgor ar y Memorandwm ar y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau tan 17 Chwefror 2022.

 

 

5.

Papurau i'w nodi

5.1

Llythyr gan Arweinydd Plaid Cymru - Aelodau dynodedig

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr.

 

Datganodd Sian Gwenllian fuddiant gan ei bod wedi'i phenodi'n Aelod Dynodedig.

 

 

 

5.2

Llythyr gan y Prif Weinidog - Aelodau dynodedig

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr. 

 

5.3

Canllawiau ychwanegol ar weithredu trafodion y Cyfarfod Llawn yn ystod y Cytundeb Cydweithio

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y canllawiau ychwanegol sydd i'w cyhoeddi gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 6.17. Mynegodd Sian Gwenllian wrthwynebiad grŵp Plaid Cymru i'r gostyngiad yn nifer y llefarwyr y bydd ei Aelodau'n cael eu galw i ofyn cwestiynau heb rybudd yn ystod Cwestiynau Llafar i Weinidogion.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried  y opsiynau ar gyfer craffu ar waith Aelodau Dynodedig ac Arweinydd Plaid Cymru mewn cyfarfod yn y dyfodol.