Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn Busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth
Gofynnodd
Darren Millar i'r amser ar gyfer Cod Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb Cwricwlwm
Cymru, gael ei ymestyn o ystyried nifer yr Aelodau a allai fod yn dymuno siarad
arno. Dywedodd y Llywydd y bydd yn defnyddio ei disgresiwn i geisio sicrhau bod
pob Aelod sy'n dymuno siarad yn gallu gwneud
hynny. Dydd Mercher
Cyfarfod
llawn rhithwir Dywedodd y Llywydd ei bod, ar ôl ymgynghori ag arweinwyr
grwpiau, wedi penderfynu y cynhelir y Cyfarfod Llawn mewn fformat rhithwir yr
wythnos hon oherwydd y sefyllfa bresennol mewn perthynas â Coronafeirws, ond
bod Aelodau a'u staff yn parhau i allu cael mynediad i Dŷ Hywel at
ddibenion busnes, pan fydd angen hynny o ran llesiant neu os nad yw eu
hamgylchiadau'n caniatáu iddynt weithio'n effeithiol gartref. Gofynnodd y
Llywydd i Reolwyr Busnes roi gwybod i'r Aelodau nad oes unrhyw seibiannau
wedi'u trefnu felly yn ystod y trafodion ac y bydd ymyriadau yn y Cyfarfod
Llawn rhithwir yr wythnos hon yn aros yr un fath ag y buont mewn trafodion
hybrid diweddar – dylai Aelodau godi llaw yn gorfforol i nodi pryd y maent yn
dymuno ymyrryd. Adalw Nododd y
Llywydd y byddai unrhyw achos o adalw’r Senedd a fyddai’n ofynnol dros doriad y
Nadolig yn digwydd yn rhithwir. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth
11 Ionawr 2022 - ·
·
Rheoliadau
Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22)
2021 (30 munud) |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 26 Ionawr 2022 - ·
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): (60 munud)
|
|
Deddfwriaeth |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021 Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes y dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyflwyno
adroddiad ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5)
(Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021 erbyn dydd Llun 10 Ionawr
2022. |
|
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael), Y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) a'r Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar y canlynol: ·
cyfeirio'r
Memorandwm ar y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael) at y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau
Rhyngwladol a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, gyda
dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 10 Mawrth 2022; ·
cyfeirio'r
Memorandwm Atodol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) at Bwyllgor yr
Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 17 Chwefror 2022;
a ·
chyfeirio’r
Memorandwm Atodol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 at Bwyllgor yr Economi,
Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno
adroddiad ar 11 Ionawr 2022. Yn ogystal,
cytunwyd y gellid cyfeirio'r Memorandwm ar gyfer y Bil Cenedligrwydd a Ffiniau,
a ystyriwyd yn y cyfarfod blaenorol, hefyd at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac
Addysg. |
|
Pwyllgorau |
|
Papur gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i roi caniatâd i Aelodau'r Pwyllgor Diwylliant,
Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol adael y Cyfarfod Llawn
yn gynnar ddydd Mercher 9 Chwefror 2022. |
|
Amserlen y Pwyllgorau |
|
Ceisiadau o ran Amserlen y Pwyllgorau Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ganiatáu i’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
gynnal cyfarfod ychwanegol ar brynhawn 14 Chwefror 2022 er mwyn cymryd
tystiolaeth fel rhan o'i ymchwiliad i dlodi tanwydd a'r rhaglen cartrefi
cynhesach. Cytunodd y
Pwyllgor Busnes hefyd i ganiatáu i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus gynnal cyfarfod ychwanegol ar fore 17 Chwefror 2022 i
ystyried Cyfrifon Blynyddol 2020-21 Llywodraeth Cymru, yn amodol ar osgoi
gwrthdaro â chyfarfod Fforwm y Cadeiryddion ar yr un diwrnod. |
|
Adolygiad o amserlen y pwyllgorau a chylchoedd gwaith y pwyllgorau: Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar gylch gorchwyl ac amserlen ar gyfer yr adolygiad, yn amodol
ar y safbwyntiau a fynegwyd gan Fforwm y Cadeiryddion yn ei gyfarfod ar 16
Rhagfyr 2021. |
|
Busnes y Senedd |
|
Effaith y Cytundeb Cydweithio ar Fusnes y Senedd Cofnodion: Datganodd Sian Gwenllian fuddiant gan ei bod wedi'i phenodi'n Aelod
Dynodedig. Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at y goblygiadau i Fusnes y Senedd sy'n
deillio o'r Cytundeb Cydweithio. Roedd y Ceidwadwyr a Jane Dodds o'r farn na ddylid dyrannu'r Gadeiryddiaeth
i Blaid Cymru. Roedd Llafur a Phlaid Cymru o'r farn y dylai Cadeiryddiaeth y
Pwyllgor Cyllid barhau i gael ei dyrannu i Blaid Cymru. Gan nad oedd mwyafrif
ar y Pwyllgor Busnes o blaid, ni fyddai unrhyw newid yn cael ei gynnig. At
ddibenion cofnodi, nododd y Llywydd ei barn na ddylai Plaid Cymru gadeirio'r
Pwyllgor Cyllid. Nododd y Pwyllgor Busnes y byddai enw, cyfrifoldebau a phortffolios yr
Aelodau Dynodedig yn cael eu cyhoeddi. Trafododd y Pwyllgor sut i
ddarparu ar gyfer rôl Aelodau Dynodedig o fewn trefniadau busnes presennol y
Senedd gan gynnwys: cwestiynau, datganiadau, dadleuon; dyrannu amser nad yw'n
amser y llywodraeth; pwyllgorau'r Senedd; a'r cyfle i graffu ar Aelodau
Dynodedig. Dywedodd y Llywydd ei bod yn bwriadu cyhoeddi datganiad pellach
ddydd Mercher yn amlinellu ei phenderfyniadau ar faterion o fewn ei disgresiwn.
Byddai'r Pwyllgor Busnes yn ystyried opsiynau ar gyfer craffu ar waith
Arweinydd Plaid Cymru ac Aelodau Dynodedig ar faterion yn ymwneud â'r Cytundeb
Cydweithio mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i barhau i adolygu gweithrediad y Cytundeb ac
unrhyw newidiadau a wneir wrth symud ymlaen ac i ddychwelyd atynt maes o law. |