Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Graeme Francis
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. |
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
Trefn busnes |
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth ·
Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei
gynnal fel yr eitem olaf o fusnes. ·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 6.40pm. Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newid canlynol i agenda dydd Mawrth: ·
Hysbysodd y
Llywydd Rheolwyr Busnes y bydd artist yn braslunio Cyfarfod Llawn o'r oriel
gyhoeddus fel rhan o brosiect am 'sut mae democratiaeth i’w weld’. Nid yw
hwn yn un o brosiectau’r Comisiwn. Dydd
Mercher ·
Caiff y
Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer. ·
Nid yw'r
Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.50pm. |
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Tynnodd y
Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth
14 Rhagfyr 2021 – ·
Datganiad gan
y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Llunio Dyfodol Cymru – Gosod cerrig
milltir cenedlaethol, dangosyddion cenedlaethol diwygiedig a chyhoeddi
adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol (45 munud) ·
·
Datganiad
gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Diogelwch Adeiladu (45 munud) ·
Rheoliadau
Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21)
2021 (30 munud) Nododd y Pwyllgor Busnes fod
disgwyl i'r adolygiad tair wythnos diweddaraf o’r Rheoliadau Coronafeirws gael
ei gynnal yn ddiweddarach yr wythnos hon, a bod posibilrwydd o newidiadau i’r
Rheoliadau Coronafeirws o ganlyniad. Cododd Rheolwyr Busnes gyda'r Trefnydd y
byddent yn dymuno cael pleidlais ddangosol yn y Cyfarfod Llawn cyn toriad y
Nadolig pe bai newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud. |
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen: Dydd
Mercher 19 Ionawr 2022 –
|
|
Deddfwriaeth |
|
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021 Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes y
dylai'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad gyflwyno adroddiad
ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru)
(Diwygio) (Rhif 21) 2021 erbyn dydd Llun 13 Rhagfyr. |
|
Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws), y Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir), y Bil Cymwysterau Proffesiynol, Bil Cenedligrwydd a Ffiniau’r DU a diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol presennol Cofnodion: At hynny, fe
wnaeth y Pwyllgor Busnes gytuno i wneud y canlynol: ·
cyfeirio'r
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Rhent Masnachol (Coronafeirws) at
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Phwyllgor yr Economi,
Masnach a Materion Gwledig gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd o 10 Chwefror 2022; ·
cyfeirio’r
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) ar y Bil Diwygio Cyfraith
Lesddaliad (Rhent Tir) at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
a’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai gyda dyddiad cau diwygiedig ar fore 14
Rhagfyr 2021 ar gyfer cyflwyno adroddiad arno; ·
cyfeirio'r
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar y Bil Cymwysterau
Proffesiynol at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a
Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig gyda dyddiad cau ar gyfer
cyflwyno adroddiad ar 10 Chwefror 2022; ·
cyfeirio'r
Memorandwm ar y Fil Cenedligrwydd a Ffiniau’r DU at y Pwyllgor Deddfwriaeth,
Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda
dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 10 Chwefror 2022; ·
nodi'r
sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol. |
|
Y Rheolau Sefydlog |
|
Cynnig i ddiwygio Rheola Sefydlog 23.4 sy'n ymwneud â'r trothwy llofnodion ar gyfer deisebau Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor
Busnes ar Adroddiad drafft y Pwyllgor Busnes ar y newid y gofynnwyd amdano gan
y Pwyllgor Deisebau, ac i gyflwyno cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog i'w
drafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 15 Rhagfyr 2021. |
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y llythyr
gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad a chytunodd i wahodd y Pwyllgor hwnnw i
ystyried y pwyntiau a godwyd mewn perthynas â Rheolau Sefydlog 2.6 a 2.7
(Datganiadau o Fuddiant y gellir eu Cofrestru) fel rhan o'i adolygiad
arfaethedig o gofrestru buddiannau. |
|
Busnes y Senedd |
|
Y Cytundeb Cydweithio: Goblygiadau i Fusnes y Senedd? Cofnodion: Datganodd Sian Gwenllian
fuddiant gan ei bod wedi'i phenodi'n Aelod Dynodedig. Nododd y Pwyllgor
Busnes y farn gyfreithiol allanol a ddarparwyd gan yr Arglwydd Pannick CF ar y
Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ac y byddai'r farn gyfreithiol
yn cael ei rhannu gyda'r holl Aelodau. Roedd y cyngor yn cefnogi barn
ragarweiniol y Llywydd nad oedd Plaid Cymru yn grŵp ag iddo rôl
weithredol. Nododd y Pwyllgor Busnes fod barn y Llywydd ar y mater yn
ddigyfnewid a'i bod yn derfynol. Cynhaliodd y Pwyllgor
Busnes drafodaeth gychwynnol ar y goblygiadau posibl ar gyfer gweithredu Busnes
y Senedd o ganlyniad i’r Cytundeb. Cytunodd Rheolwyr Busnes y byddent yn ceisio
barn eu grwpiau cyn dychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf. |