Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon.

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn Busnes

3.7

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 18.25.

Dydd Mercher  

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 18.55. 

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Pwyllgor Busnes at ychwanegu'r Datganiad ar COP26, a gyflwynir gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. Mae datganiad ar Ail Gartrefi a Fforddiadwyedd a datganiad ar Gynllun Tai Cymunedau Cymraeg a ychwanegwyd yn flaenorol at agenda heddiw, wedi’u gohirio.

 

Egwyliau

 

Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes atgoffa'r Aelodau i adael y Siambr yn ystod yr egwyliau, fel y gall staff gyflawni'r paratoadau angenrheidiol wrth gadw pellter addas.

 

Bil Aelod - defnyddio'r bleidlais fwrw

 

Hysbysodd y Llywydd y Pwyllgor Busnes, pe bai pleidlais gyfartal ar y cynnig yn ceisio cytundeb y Senedd i gyflwyno Bil Aelod yr wythnos hon, y byddai'r bleidlais fwrw yn cael ei defnyddio o blaid yn unol â'r canllawiau cyfredol. Fodd bynnag, mae'r Llywydd yn bwriadu adolygu'r canllawiau i sicrhau ei fod yn gyson ar draws pob math o gynigion a bydd yn sicrhau bod Rheolwyr Busnes yn ymwybodol o unrhyw ddiwygiadau.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cynghorodd y Trefnydd y Pwyllgor Busnes nad oedd unrhyw newidiadau i amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 1 Rhagfyr 2021 –

 

  • Dadl ar ddeiseb P-06-1208: Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth (30 munud) gohiriwyd i 8 Rhagfyr 2021
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

Dydd Mercher 8 Rhagfyr 2021 –

 

  • Dadl ar ddeiseb P-06-1208: Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth (30 munud) gohiriwyd o 1 Rhagfyr 2021
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)

 

 

3.4

Cynigion Deddfwriaethol Aelodau - dethol cynnig i’w drafod

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu’r cynnig a ganlyn i’w drafod ar 24 Tachwedd:

 

NNDM7828

Rhys ab Owen

Peter Fox

Mike Hedges

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil i sicrhau diogelwch cladin ar adeiladau yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai sicrhau diogelwch preswylwyr drwy sicrhau bod cladin diogel ar gael ar adeiladau.

 

 

4.

Trefniadau Cyflwyno

4.1

Toriad y Nadolig 2021: Trefniadau cyflwyno a gosod

Cofnodion:

Toriad y Nadolig 2021: Trefniadau cyflwyno a gosod

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:

 

  • cadarnhau’r trefniadau ar gyfer gosod dogfennau yn ystod cyfnod y Nadolig, gan gynnwys cytuno ar y cynnig i glerc ar ddyletswydd fod ar alwad i gyhoeddi unrhyw reoliadau a osodir ar ddiwrnodau gwaith rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
  • cadarnhau'r trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn ystod wythnos gyntaf y tymor; a’r
  • trefniadau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig.

 

 

5.

Unrhyw faterion eraill

Cofnodion:

Enwebiadau ar gyfer Cyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol Cyngor Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau - Grŵp Cyswllt y DU.

 

Cynghorodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes y byddai'n gwneud yr enwebiadau a ganlyn:

 

Cyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol:

 

  • Aelod llawn: Mabon ap Gwynfor AS
  • Aelod sy'n dirprwyo: Buffy Williams AS

 

Pwyllgor y Rhanbarthau – Grŵp Cyswllt:

 

  • Alun Davies AS
  • Laura Anne Jones AS