Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Zoom

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr aelodau i’r cyfarfod.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.30pm.

Dydd Mercher  

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.20pm. 

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at aildrefnu'r datganiad gan Weinidog yr Economi: Economi Wyrddach a’r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gweithredu carbon sero-net a rhaglen ysgolion a cholegau'r 21ain ganrif.

 

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at yr ychwanegiadau a ganlyn i agenda dydd Mawrth:

 

Dydd Mawrth 2 Tachwedd 2021

·         Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (5 munud)

·         Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd (15 munud)

·         Cyfnod Pleidleisio (15 munud)

 

Nododd y Llywydd fod datganiad gan y llywodraeth ar y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) wedi'i drefnu ddydd Mercher. Esboniodd y Trefnydd fod hyn o ganlyniad i hyd agenda dydd Mawrth, ac y byddai'r llywodraeth yn parhau i osgoi trefnu eitemau ar ddydd Mercher oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol.

 

 

3.2

Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Tynnodd y Trefnydd sylw'r Rheolwyr Busnes at y newidiadau a ganlyn:

 

Dydd Mawrth 9 Tachwedd 2021 –

 

·         Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cymru ac Affrica (45 munud)

·         Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2021 (20 munud)

·         Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Diwygio) (Cymru) (Coronafeirws) (Rhif 2) 2021 (15 mun)

 

Dydd Mawrth 16 Tachwedd 2021 –

 

·         Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Llafaredd a Darllen Plant Y Rhaglen Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol (45 munud)

 

 

 

3.3

Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:

 

Dydd Mercher 24 Tachwedd 2021 –

 

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol: Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015: Craffu ar weithredu (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 a Bil yr Amgylchedd; a'r wybodaeth ddiweddaraf am y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol cyfredol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:

  • cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar bob Memorandwm ar y Bil hwn ar 16 Rhagfyr 2021;
  • peidio â chyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) ar Fil yr Amgylchedd ar gyfer craffu gan bwyllgorau;
  • nodi'r ddadl ar 2 Tachwedd ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil yr Amgylchedd; a
  • nodi'r sefyllfa ddiweddaraf o ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol.

 

 

4.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a'r penderfyniad a wnaed o ran y dyddiad cau ar gyfer adrodd fel rhan o'r eitem flaenorol.

 

 

4.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y materion ehangach a godwyd mewn perthynas â Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ac i ystyried y rhain ymhellach ar ôl i'r trafodaethau rhwng y Senedd a swyddogion y llywodraeth gael eu cwblhau.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd mewn egwyddor y dylid ymestyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol canlynol tra'n aros am gyngor pellach gan swyddogion y Senedd a Llywodraeth Cymru:

  • Bil Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir);
  • Bil Rheoli Cymorthdaliadau;
  • Bil Diogelwch Adeiladau;
  • Bil Iechyd a Gofal;
  • Bil Etholiadau.

 

Bydd dyddiadau cau newydd ar gyfer adrodd ar bob Memorandwm yn cael eu cynnig i'w cytuno y tu allan i'r pwyllgor, yn dilyn trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru.

 

 

5.

Ymgysylltiad Ewropeaidd

5.1

Enwebiadau ar gyfer Cyngres Awdurdodau Lleol a Rhanbarthol Cyngor Ewrop a Phwyllgor y Rhanbarthau-Grŵp Cyswllt y DU.

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr enwebiadau a chytunwyd i ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod nesaf.

 

 

6.

Busnes y Senedd

6.1

Llythyr gan y Prif Weinidog

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a nododd fod Comisiwn y Senedd yn cymryd camau i gyfyngu ar nifer y staff sy'n gweithio ar ystâd y Senedd mewn ymateb i'r niferoedd uchel presennol o achosion o Covid-19 ledled Cymru. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod cymryd camau tebyg gyda'u grwpiau ac i annog Aelodau nad ydynt yn mynychu'r Cyfarfod Llawn yn bersonol i ymuno â'r cyfarfod oddi ar y safle. Gofynnodd y Llywydd hefyd i Reolwyr Busnes annog Aelodau i ystyried mwy o ddefnydd o orchuddion wyneb yn y Siambr pan nad ydynt yn gwneud cyfraniad.

 

 

7.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

COP-26

 

Cododd Darren Millar bryderon am gydbwysedd gwleidyddol y ddirprwyaeth o'r Senedd a aeth i gynhadledd COP-26. Bydd nodyn ar hyn yn cael ei anfon at Reolwyr Busnes.