Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Helen Finlayson
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Jane Dodds AS. |
|
(09.30) |
Cofnodion y cyfarfod blaenorol, a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr 2025 Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol. |
|
(09.30 - 09.40) |
Datgan buddiant Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig newidiadau i'r
Rheolau Sefydlog i roi effaith i argymhelliad 1 yn adroddiad y Pwyllgor Safonau
Ymddygiad ar ddatganiadau o fuddiant (gan ddileu'r gwaharddiad ar bleidleisio
pan fo Aelod wedi datgan buddiant cofrestradwy). Cytunodd y dylai'r adroddiad
sy’n cynnig newid y Rheol Sefydlog adlewyrchu'r rhesymau a roddir gan y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad dros ddileu'r gwaharddiad ar bleidleisio, a oedd yn
cynnwys arddeliad y Pwyllgor hwnnw fod natur y gofyniad ynghylch gwaharddiad ar
bleidleisio yn golygu mai dim ond mewn amgylchiadau penodol iawn y byddai'n
cael ei sbarduno; nad oes unrhyw achosion ohono'n cael ei sbarduno yn y
Senedd/Cynulliad; absenoldeb gofyniad o'r fath mewn deddfwrfeydd eraill yn y DU
neu Iwerddon; a bod y ddarpariaeth bresennol wedi bod ar waith ers cyn
gwahanu'r weithrediaeth a'r ddeddfwrfa yn ffurfiol yn 2007. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ohirio penderfyniad terfynol
ynghylch argymhelliad 2 (datganiadau o fuddiant ar adeg cyflwyno) nes y byddai
wedi cael ymateb i'w lythyr at y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn gofyn am
sicrwydd y byddai'r canllawiau ar ddatganiadau o fuddiant yn mynd i'r afael â
chymhwyso'r gofyniad i Aelodau a oedd yn cyflwyno busnes ar ran eraill (megis
Rheolwyr Busnes yn cyflwyno busnes ar ran eu grŵp gwleidyddol, y Trefnydd yn cyflwyno busnes ar ran
y llywodraeth, neu gadeiryddion pwyllgorau yn cyflwyno busnes ar ran eu
pwyllgor). |
|
(09.40 - 09.50) |
Memoranda Esboniadol Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y papur a chytunodd i wneud y
canlynol:
|
|
(09.50 - 10.20) |
Biliau Cyhoeddus Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y Rheolau
Sefydlog a chytunodd arno. |
|
(10.20 - 10.50) |
Biliau Aelod Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y Rheolau
Sefydlog a chytunodd arno. |
PDF 126 KB