Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Ni chafwyd
ymddiheuriadau. |
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w
cyhoeddi. |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Nododd y Pwyllgor Busnes y newidiadau a ganlyn:
Gofynnodd Heledd Fychan a yw'r Llywodraeth yn bwriadu
cyflwyno datganiad llafar ar y weledigaeth ar gyfer rheilffyrdd ledled Cymru yn
dilyn y datganiad ysgrifenedig ar y pwnc hwn a gyhoeddwyd ddoe. Cytunodd y
Trefnydd i ystyried y mater. Cafodd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad ar y trafodaethau a
gynhaliwyd ynghylch y ddadl cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Oedolion Terfynol
Sâl (Diwedd Oes) yng nghyfarfod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r
Cyfansoddiad y diwrnod cynt. Dydd Mercher
Trafododd a nododd y Rheolwyr Busnes y trefniadau ar
gyfer pan fydd y Cyfarfod Llawn yn dychwelyd i'r Senedd o'r wythnos hon ymlaen. |
|
|
Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y
newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos
nesaf: Dydd Mawrth 3 Mawrth 2026
Dydd Mawrth 10 Mawrth 2026
|
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i
amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mercher 18 Mawrth 2026 –
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes gais gan Mark
Isherwood AS i drefnu'r ddadl a'r bleidlais ar Gyfnod 4 y Bil Iaith Arwyddion
Prydain (Cymru) yn gynharach yn y trafodion ar 11 Mawrth. Cytunodd y Rheolwyr
Busnes i ofyn am ragor o wybodaeth gan yr Aelod ynghylch y rhesymau dros y
cais. |
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Llythyr gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar y Bil Cynlluniau Pensiwn Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr. |
|
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes i:
|
|
|
Gwaith Gweithdrefnol |
|
|
Pleidleisio o bell yn y Cyfarfod Llawn Cofnodion: Dychwelodd y Pwyllgor Busnes i ystyried adborth gan
grwpiau gwleidyddol ar opsiynau ar gyfer newidiadau yn y dyfodol i drefniadau ar
gyfer pleidleisio o bell yn ystod y Cyfarfod Llawn, yn dilyn ystyriaeth
flaenorol yn y cyfarfod ar 3 Chwefror. Dywedodd Heledd Fychan fod grŵp Plaid Cymru yn cefnogi cadw pleidleisio o bell a
chyfranogiad o bell mewn trafodion y Cyfarfod Llawn. Mae'r grŵp yn agored i'w gwneud yn ofynnol i Aelodau ddewis
un dull o gyfranogi fesul pob Cyfarfod Llawn a/neu gyflwyno terfyn ar nifer,
neu gyfran, yr Aelodau sy'n gallu pleidleisio o bell, gyda mesurau diogelwch
priodol i sicrhau y gellir amddiffyn anghenion penodol Aelodau sydd â gofynion ychwanegol neu gyfrifoldebau gofalu. Cadarnhaodd y Trefnydd fod grŵp Llafur Cymru hefyd yn cefnogi cadw pleidleisio o
bell a chyfranogiad o bell. Dywedodd y Trefnydd fod mwyafrif o fewn y grŵp o blaid cadw'r trefniadau presennol, gyda
rhywfaint o gefnogaeth yn cael ei mynegi i'w gwneud yn ofynnol i Aelodau ddewis
un dull o gyfranogi fesul Cyfarfod Llawn oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn
berthnasol. Ailadroddodd Paul Davies fod grŵp y Ceidwadwyr Cymreig o blaid terfynu’r trefniadau ar gyfer cyfranogiad o bell a
phleidleisio o bell. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i:
|
PDF 192 KB