Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. 

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth  

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.20pm.

 

Mae Cyfnod 3 Bil yr Amgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethiant a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) wedi’i amserlennu ar gyfer tair awr. Mae 54 o welliannau mewn 11 o grwpiau. Bydd egwyl o 10 munud cyn dechrau Cyfnod 3.

 

Dydd Mercher

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y newid a ganlyn:

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 10 munud)

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.25pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 3 Mawrth 2026

  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau canlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (5 munud):
    • Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol a Darpariaeth Ddarfodol) 2026
    • Rheoliadau Deddf Diogelwch Ar-lein 2023 (Gwasanaethau Defnyddiwr-i-Ddefnyddiwr a Chwilio Esempt) (Diwygio) 2026
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau canlynol gyda’i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (10 munud):
    • Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2026
    • Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Digolledu am Newid neu Ddirymu Gorchmynion Cydsyniad Seilwaith) (Cymru) 2026
  • Rheoliadau Traffig Ffyrdd (Allyriadau Cerbydau) (Cosbau Penodedig) (Cymru) (Diwygio) 2026 (15 munud)

 

Cododd Heledd Fychan y mater fod Aelodau ei grŵp wedi gofyn ai 24 Chwefror ywr dyddiad a ffefrir o hyd ar gyfer y ddadl ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes), yng ngoleuni'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol atodol pellach i'w osod gan y Llywodraeth. Cadarnhaodd y Trefnydd fod 24 Chwefror yn dal i gael ei ystyried fel y dyddiad mwyaf priodol.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 25 Chwefror 2026 -

  • Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Categorïau o Aelodau (5 munud)
  • Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Trothwyon Rheolau Sefydlog (5 munud)
  • Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Grwpiau Gwleidyddol a Grwpiadau (5 munud)
  • Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Dirprwy Lywydd ychwanegol (5 munud)
  • Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Rhannu Swydd Cadeirydd Pwyllgor (5 munud)
  • Cynnig i amrywio'r drefn o ystyried gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) (5 munud)

 

Dydd Mercher 11 Mawrth 2026 –

  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Cywain y cynhaeaf: Cefnogi diwydiant prosesu bwyd Cymru (30 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Cronfa Twf Lleol (30 munud)
  • Dadl ar Adroddiad y Bwrdd Adolygiad Seneddol sy’n gynhwysol ac yn ystyriol o deuluoedd (60 munud)
  • Dadl: Cyfnod 4 y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) (15 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Russell George AS (Sir Drefaldwyn) (30 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Hyfforddiant Meddygol (Blaenoriaethu)

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a'r ffaith nad yw'r Pwyllgor wedi adrodd ar y Memorandwm oherwydd yr amser cyfyngedig sydd ar gael.

 

4.2

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad gan y Trefnydd a chytunodd i:

  • gyfeirio’r Memorandwm Atodol (Rhif 2) ar y Bil Rheilffyrdd at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 20 Mawrth 2026;
  • cyfeirio'r Memorandwm Atodol (Rhif 3) ar y Bil Troseddau a Phlismona o flaen llaw at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 24 Chwefror 2026;
  • cyfeirio'r Memorandwm Atodol (Rhif 4) ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) o flaen llaw at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 24 Chwefror 2026, a
  • chyfeirio'r Memorandwm Atodol (Rhif 2) ar y Bil Cynlluniau Pensiwn o flaen llaw at y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 24 Chwefror 2026;

 

5.

Trefniadau Cyflwyno

5.1

Cyflwyno ar ôl yr etholiad: Trefniadau cynnar

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur a:

  • chytunodd y bydd y Swyddfa Gyflwyno yn agor ar ôl Cyfarfod Llawn cyntaf y Seithfed Senedd ar gyfer derbyn dogfennau a osodwyd, cwestiynau ysgrifenedig, busnes brys, cynigion, gwelliannau, datganiadau barn, a gosod dogfennau;
  • nododd y caiff Cwestiynau Ysgrifenedig a gyflwynir o hynny ymlaen eu cyhoeddi yn y ffordd arferol, a'r dyddiad olaf ar gyfer ateb cwestiynau ysgrifenedig fydd pum niwrnod gwaith ar ôl iddynt gael eu cyflwyno; a
  • nododd y caiff Cwestiynau Ysgrifenedig a gyflwynir i Lywodraeth Cymru eu cyflwyno i’w hateb gan y Prif Weinidog, a fydd yn penderfynu pwy ddylai eu hateb, hyd nes y caiff Gweinidogion eraill eu penodi.

 

6.

Pwyllgorau

6.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ynghylch slot cyfarfod amgen

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes gais gan y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog iddo gyfarfod ddydd Gwener 13 Mawrth 2026 a chytunodd i’r cais.

 

7.

Gwaith Gweithdrefnol

7.1

Ystyried newidiadau i Reol Sefydlog 23

Cofnodion:

Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at ystyried gwelliannau i'r Rheolau Sefydlog a gynigiwyd gan y Pwyllgor Deisebau a chytunodd i gynnig rhai o'r newidiadau i'r Senedd.

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes na fyddai’n bwrw ymlaen â chynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 23.1, a fyddai wedi ei gwneud yn ofynnol i ddeisebau gael eu cyfeirio at un pwyllgor, ar y sail nad yw am gyfyngu ar hyblygrwydd y Pwyllgor Busnes nesaf pan fydd yn sefydlu pwyllgorau yn y Seithfed Senedd.

Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai adroddiad drafft ar newid Rheolau Sefydlog yn cael ei lunio i’w gytuno mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

7.2

Llythyr gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad mewn perthynas â datganiadau o fuddiant

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cynnwys canllawiau arfaethedig ynghylch y gofyniad i Aelodau sy'n cyflwyno busnes ar ran eraill ddatgan buddiannau ar adeg ei gyflwyno. Dywedodd y Pwyllgor Busnes ei fod yn fodlon ar y cynnig.

 

7.3

Datganiadau o fuddiant: Adroddiad ar Newid Rheolau Sefydlog

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr adroddiad drafft.

 

 

7.4

Busnes Seneddol yn y Seithfed Senedd: Adroddiad ar Newid Rheolau Sefydlog

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr adroddiad drafft.