Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y
Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds AS. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y newidiadau a ganlyn: Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Mae trafodion Cyfnod 3 y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai
Cymdeithasol (Cymru) wedi'u hamserlennu ar gyfer tair awr. Mae 94 o welliannau
mewn 13 o grwpiau. Nododd y Pwyllgor Busnes y bydd egwyl o 10 munud yn digwydd
cyn dechrau Cyfnod 3. |
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y
newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos
nesaf: Dydd Mawrth 10 Chwefror 2026
Dydd Mawrth 24 Chwefror 2026
|
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i
amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf: Dydd Mercher 11 Chwefror 2026 -
Dydd Mercher 4 Mawrth 2026 –
Cais gan Adam Price AS am ddadl ar gynnig o dan Reol
Sefydlog 26C.40 - Ystyriodd y Pwyllgor Busnes ohebiaeth a ddaeth i law gan
Adam Price AS yn gofyn am amser ar gyfer dadl ar gynnig y mae wedi'i gyflwyno o
dan Reol Sefydlog 26C.40 yn cynnig bod y Senedd yn ystyried gwelliannau i’r Bil
Cynllunio (Cymru) a’r Bil Cynllunio (Darpariaethau Canlyniadol) (Cymru) yn
ystod Ystyriaeth Fanwl y Senedd. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu amser yn y
Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 11 Chwefror i’r cynnig gael ei drafod. |
|
|
Cynigion Deddfwriaethol gan Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cynigion a chytunwyd i
amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 11 Chwefror: Sioned Williams NNDM9024 Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil Hawliau Dynol (Cymru). 2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai: a) gwneud hawliau dynol rhyngwladol dethol yn rhan o
gyfraith Cymru fel eu bod yn rhwymol i Weinidogion ac awdurdodau cyhoeddus
Cymru wrth arfer swyddogaethau datganoledig a gellir eu gorfodi gan lys neu
dribiwnlys. b) ei gwneud yn haws i bobl yng Nghymru ddeall a mynnu eu
hawliau, a darparu llwybrau cliriach i gael mynediad at gyfiawnder pan nad yw
eu hawliau yn cael eu cynnal gan gyrff cyhoeddus; ac c) gwella monitro ac atebolrwydd, gan sicrhau y gellir
dal cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill i gyfrif pan fyddant yn methu â
chynnal yr hawliau dynol hyn. |
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip mewn perthynas â'r Ddadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr. Cadarnhaodd y
Trefnydd ei bod hi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
wedi ystyried y cais ac y byddai'n ymateb i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder
a'r Cyfansoddiad i ddweud bod y Llywodraeth yn bwriadu bwrw ymlaen â'r ddadl ar
24 Chwefror fel y trefnwyd. Nododd y Trefnydd y byddai hyn yn caniatáu amser ar
gyfer dadl bellach cyn diwedd y Senedd bresennol pe bai angen un i ystyried
unrhyw Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol atodol pellach ar y Bil. |
|
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad gan y Trefnydd a
chytunodd ar y canlynol:
|
|
|
Pwyllgorau |
|
|
Llythyr gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus mewn perthynas â chais am ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar ymateb Llywodraeth Cymru i Fodiwl 1 Ymchwiliad COVID-19 y DU Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cais a chytunodd i neilltuo
amser yn y Cyfarfod Llawn ar gyfer dadl ar yr adroddiad ar 18 Mawrth 2026. |
|
|
Gwaith Gweithdrefnol |
|
|
Dull y Senedd o Ystyried adroddiadau ar newid y Rheolau Sefydlog Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar ei ddull o gynnig
newidiadau i'r Rheolau Sefydlog i'r Senedd cyn ei diddymu, gyda chyfres gyntaf
o adroddiadau i'w hamserlennu ar gyfer eu trafod yn y Cyfarfod Llawn ar 25
Chwefror 2026 ac ail gyfres ar 11 Mawrth 2026. |
|
|
Llythyr gan Fwrdd yr Adolygiad o Senedd sy’n Ystyriol o Deuluoedd a Chynhwysol mewn perthynas ag argymhellion sydd â'r nod o gryfhau Rheolau Sefydlog y Senedd Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a'r argymhellion cychwynnol
yn deillio o'r Adolygiad o Senedd sy’n Ystyriol o Deuluoedd a Chynhwysol.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y bydd yn bwysig rhoi ystyriaeth fanwl i'r
argymhellion a fydd yn deillio o'r Adolygiad a byddant yn ystyried
ymateb unwaith y bydd yr adroddiad terfynol ar gael. O ystyried yr amser
cyfyngedig iawn sy'n weddill yn nhymor y Senedd hon, nododd y Pwyllgor Busnes
ei bod yn debygol y bydd yn cynnwys y potensial ar gyfer ystyriaeth
weithdrefnol o'r materion hyn fel rhan o'i adroddiad gwaddol. Dywedodd y Llywydd y bydd hi'n cwrdd yr wythnos hon â
Chadeirydd y Bwrdd Adolygiad o Senedd sy’n Ystyriol o Deuluoedd a Chynhwysol. |
|
|
Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas ag ystyried newidiadau i Reol Sefydlog 23 Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chynigion am
newidiadau i'r Rheolau Sefydlog gan y Pwyllgor Deisebau. Cytunodd y Rheolwyr
Busnes i drafod gyda'u grwpiau cyn dychwelyd i ystyried y newidiadau
arfaethedig ymhellach yn ei gyfarfod nesaf. |
|
|
Llythyr gan Fforwm y Cadeiryddion mewn perthynas â ffurfioli Fforwm y Cadeiryddion Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i beidio â
chynnig unrhyw newidiadau i'r Rheolau Sefydlog ynghylch Fforwm y Cadeiryddion
yn y Senedd bresennol. Cytunodd y Pwyllgor i gynnwys y potensial ar gyfer
ystyriaeth weithdrefnol o'r mater hwn fel rhan o'i adroddiad gwaddol cyn y
Seithfed Senedd. |
|
|
Pleidleisio o bell yn y Cyfarfod Llawn Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Busnes drefniadau ar gyfer
pleidleisio o bell yn y Cyfarfod Llawn a sawl opsiwn ar gyfer newidiadau posibl
o ran arfer. Nododd Paul Davies fod grŵp y Ceidwadwyr Cymreig o blaid terfynu’r trefniadau ar gyfer cyfranogiad a phleidleisio o
bell. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod gyda'u grwpiau cyn dychwelyd at y
mater hwn mewn cyfarfod yn y dyfodol. |
PDF 197 KB