Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth

 

Dywedodd Jane Dodds ei bod wedi ysgrifennu at y Trefnydd i ofyn am ddatganiad llafar ar y sefyllfa bresennol gydag Undeb Rygbi Cymru a'r Gweilch. Cadarnhaodd y Trefnydd y byddai'n ystyried y cais.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y canlynol:

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.10pm.

 

Dydd Mercher

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.00pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 10 Chwefror 2026

  • Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Gwerth Lluosyddion Gwahaniaethol) (Cymru) 2026 (5 munud)
  • Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Trefniadau Osgoi Artiffisial) (Rhestrau Lleol) (Cymru) 2026 (15 munud)
  • Rheoliadau Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (Diwygio Atodlen 5) 2026 (5 munud)
  • Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Caffaeliadau sy'n Ymwneud ag Anheddau Lluosog) (Cymru) 2026 (5 munud)
  • Rheoliadau Cau Cynlluniau Amaethyddiaeth Gwaddol yr Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2026 (15 munud)
  • Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) (Diwygio etc.)  2026 (5 munud)

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd am y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 04 Chwefror 2026 -

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Teithio Llesol yng Nghymru (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Gwasanaethau Offthalmoleg yng Nghymru (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Buffy Williams (Rhondda) (30 munud)

 

Nododd y Rheolwyr Busnes mai'r bwriad yw y bydd y gyfran gyntaf o adroddiadau newid Rheolau Sefydlog i baratoi ar gyfer y Seithfed Senedd yn cael ei chynnig i'r Senedd gytuno arnynt yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 25 Chwefror, ac y bydd rhagor o fanylion yn cael eu darparu yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

Trafododd y Rheolwyr Busnes opsiynau ar gyfer amserlennu busnes y Senedd ar 4 Mawrth pan gynhelir trafodion Cyfnod 3 ar y Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru).

 

 

3.4

Effaith Aelod yn gadael grŵp gwleidyddol

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:

  • cynnig y lle gwag ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i James Evans AS ac, os na fydd yn cymryd y lle hwn, dyrannu'r sedd wag i Grŵp Plaid Cymru;
  • addasu dyraniad amser dadl yr wrthblaid i gymhareb 1:1;
  • bod y drefn y mae arweinwyr a llefarwyr y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn cael eu galw i ofyn cwestiynau llafar yn cael ei newid bob yn ail yn wythnosol; a
  • nodi bwriad y Llywydd i newid y drefn y mae siaradwr cyntaf y Ceidwadwyr a siaradwr cyntaf Plaid Cymru yn cael eu galw i gyfrannu at ddatganiadau llafar a dadleuon.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau at y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Cyflawni mewn perthynas â phenderfyniad ariannol Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr. Cadarnhaodd y Trefnydd y byddai'r Cwnsler Cyffredinol yn ymateb i'r llythyr.

 

 

4.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch gwrthdaro amserlennu â dadl y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes)

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr. Cadarnhaodd y Trefnydd nad oedd y Llywodraeth yn bwriadu ail-drefnu'r ddadl ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) sydd i ddigwydd ar 24 Chwefror.

 

 

4.3

Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid (Rhif 2)

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i roi gwybod i Bwyllgor Busnes y Seithfed Senedd y gallai fod angen iddo ystyried y goblygiadau gweithdrefnol sy'n deillio o gyfraddau treth incwm eiddo Cymru, a sut y byddai hyn yn gweithredu ochr yn ochr â phenderfyniad cyfraddau treth incwm blynyddol Cymru.

 

 

4.4

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad gan y Trefnydd a chytunodd i:

  • gyfeirio’r Memorandwm ar y Bil Rheilffyrdd at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad terfynol o 20 Mawrth i gyflwyno adroddiad arno.

 

 

5.

Trefniadau Cyflwyno

5.1

Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Pasg a'r Diddymiad

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes gyngor gan y Swyddfa Gyflwyno a chytunodd:

  • mai'r terfyn amser ar gyfer derbyn Cwestiynau Ysgrifenedig fydd 4pm ddydd Gwener 20 Mawrth;
  • mai'r terfyn amser ar gyfer derbyn eitemau eraill o fusnes a gyflwynir, ac eithrio busnes brys yn ymwneud ag unrhyw gyfarfodydd adalw a gynhelir yn ystod toriad y Pasg, fydd 4pm ddydd Gwener 27 Mawrth;
  • y bydd y Swyddfa Gyflwyno ar agor rhwng 10am a 3pm yn ystod y toriad, ac eithrio dydd Mawrth 7 Ebrill pan fydd ar agor tan 6pm;
  • nad oes modd derbyn dim dogfennau i'w gosod os ydynt yn dod i law ar ôl 6pm ddydd Mawrth 7 Ebrill;
  • nad oes modd gwneud unrhyw newidiadau i'r Gofrestr Buddiannau ar ôl 6pm ddydd Mawrth 7 Ebrill; ac
  • mai'r dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno dogfennau sy'n ymwneud â gweithgareddau Grwpiau Trawsbleidiol yw 6pm ddydd Mawrth 7 Ebrill ac y bydd yr holl Grwpiau Trawsbleidiol yn cael eu dadgofrestru'n awtomatig unwaith y bydd y diddymiad yn dechrau am hanner nos ddydd Mercher 8 Ebrill.

 

6.

Gwaith Gweithdrefnol

6.1

Datganiadau o fuddiant: nodyn ychwanegol

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes nodyn ychwanegol ynghylch materion a godwyd yn y cyfarfod blaenorol a chytunodd i ddychwelyd i ystyriaeth bellach o'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ei gyfarfod ddydd Iau 29 Ionawr, yn dilyn ymgynghori â grwpiau.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ysgrifennu at y Pwyllgor Safonau Ymddygiad er mwyn gofyn i'w ddiwygiadau arfaethedig i'r canllawiau sy'n ymwneud â datgan buddiannau (y 'prawf perthnasedd') ddyfynnu Rheolwyr Busnes neu'r Trefnydd, wrth gyflwyno ar ran eu grŵp neu'r llywodraeth, fel enghraifft o lle na ellid fel arfer feddwl yn rhesymol bod buddiant personol wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i wneud hynny.