Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth 

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y newidiadau a ganlyn:

 

  • Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn caniatáu i’r eitem nesaf o fusnes gael ei hystyried (5 munud).
  • Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau canlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud)
    • Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 fod Bil sydd i'w alw'n Fil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) yn cael ei drin fel Bil Brys y Llywodraeth
    • Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil sydd i'w alw'n Fil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth)
  • Cyfnod pleidleisio (5 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio: Cynnydd a chyflawniad Economi Cymru yn y dyfodol (30 munud)
  • Egwyddorion cyffredinol Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) (60 munud) (Yn amodol ar dderbyn y cynigion cynharach)

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.15pm.

 

Dydd Mercher

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y newidiadau a ganlyn:

 

Pwyllgor o’r Senedd Gyfan – 13.00 (dros dro)

  • Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) – trafodion Cyfnod 2 (60 munud)

 

 

  • Dadl: Cyfnod 3 Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) (60 munud) (dros dro)
  • Dadl: Cyfnod 4 Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth) (15 munud) (dros dro)
  • Cyfnod pleidleisio (5 munud) (dros dro)

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.  
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 8.30pm.

 

Gofynnodd Heledd Fychan i'r Llywodraeth ystyried cyflwyno Datganiadau Llafar ar: ddefnydd Llywodraeth Cymru o 'X'; ac, ar golli swyddi yn ddiweddar yn 'Consumer Energy Solutions'.

 

Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes fod yr holl Aelodau wedi cael gwybod am y bwriad, o heddiw ymlaen, i orfodi'r Canllawiau ar Drafodion Rhithwir a Hybrid mewn perthynas â'r angen am hysbysiad ymlaen llaw er mwyn i Aelod allu bwrw ei bleidlais o bell mewn trafodion Cyfarfod Llawn, gyda'r effaith na fydd Aelod yn gymwys i bleidleisio o bell os nad oes hysbysiad ymlaen llaw wedi dod i law ar ei gyfer.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 20 Ionawr 2026

  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Amseroedd Aros y GIG (45 munud) Gohiriwyd tan 27 Ionawr
  • Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Diogelwch Tomenni Glo (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Hybiau Iechyd Menywod (30 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol: Cymru Greadigol (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru: Teithio i bawb (30 munud)
  • Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2026 (10 munud) - gohiriwyd tan 3 Chwefror

 

Dydd Mawrth 27 Ionawr 2026

  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Amseroedd aros y GIG (45 munud)
  • Dadl: Cyllideb Derfynol 2026-27 (60 90 munud)

 

Dywedodd y Trefnydd wrth y Pwyllgor Busnes fod y Datganiad ar Amseroedd Aros y GIG yn cael ei ohirio am wythnos gan fod y data diweddaraf i fod i gael eu cyhoeddi ar 22 Ionawr.

 

Nododd y Trefnydd fod y Ddadl ar Gyllideb Derfynol 2026-27 wedi'i hymestyn yn dilyn argymhelliad gan y Pwyllgor Cyllid.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr ychwanegiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 04 Chwefror 2026 -

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: Llwybrau at addysg a hyfforddiant ôl-16 (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Tyrchu’r tir: Gwella iechyd pridd Cymru (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl fer (30 munud)

 

 

3.4

Llythyr gan Gadeirydd Bwrdd yr Adolygiad Cynhwysol ac Ystyriol o Deuluoedd ynghylch slot dadl

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cais a chytunodd i ddyrannu amser i adroddiad y Bwrdd gael ei drafod gan y Senedd ym mis Mawrth 2026, ar ddyddiad i'w gadarnhau.

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Bil Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru (Aelodaeth)

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur gan Lywodraeth Cymru ar gefndir, pwrpas ac amserlen arfaethedig y Bil.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y trefniadau arfaethedig ar gyfer trafodion Cyfnod 2 a 3, fel y'u nodir yn y nodyn drafft a ddarparwyd i'r Aelodau, gan gynnwys:

 

  • y byddai Pwyllgor y Senedd Gyfan yn cyfarfod am 1pm ar 14 Ionawr ar gyfer trafodion Cyfnod 2, gyda’r Cyfarfod Llawn yn dechrau ar ôl diwedd y trafodion hynny ac egwyl fer; a
  • bydd Cyfnodau 3 a 4 yn cael eu cynnwys fel yr eitemau olaf yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Ionawr, ar ôl i fusnes y Senedd a'r Cyfnod Pleidleisio ddod i ben.

 

Nododd y Llywydd fod y Canllawiau ar Drafodion Rhithwir a Hybrid, fel y'u diwygiwyd yn ddiweddar, yn nodi bod yn rhaid i Aelodau gymryd rhan yn nhrafodion cyfnod diwygio Biliau wyneb yn wyneb, oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn berthnasol neu fod cymryd rhan yn rhithwir yn addasiad rhesymol i anghenion penodol Aelod. Gofynnodd y Llywydd i'r Rheolwyr Busnes sicrhau bod unrhyw gais i Aelod gael caniatâd i gymryd rhan yn rhithwir yn ei chyrraedd cyn y trafodion ar 14 Ionawr.

 

4.2

Llythyr gan Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch amserlenni ar gyfer craffu ar Filiau

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chydnabod yr heriau i bwyllgorau a rhanddeiliaid sydd wedi codi yn sgil yr amserlenni ar gyfer y Bil hwn a Biliau eraill ym mlwyddyn olaf rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes y bydd cyfle i'r Pwyllgor Busnes nodi ei farn ar amserlennu Biliau yn yr adroddiad sydd ar ddod ar ei Adolygiad o'r broses Biliau Cyhoeddus.

 

4.3

Llythyr gan Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau ynglŷn ag adroddiad craffu Cyfnod 1

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i ystyried y casgliadau a'r argymhellion perthnasol a gyrhaeddwyd gan Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau fel rhan o'i waith gwaddol, yn sgil cynnwys y Bil ar ddiwedd ei hynt drwy'r Senedd.

 

4.4

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:

  • Cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes) at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 20 Ionawr 2026.
  • Cyfeirio’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) ar y Bil Tanwydd Hedfan Cynaliadwy i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad terfynol o 20 Ionawr 2026 i gyflwyno adroddiad.

 

 

4.5

Llythyr gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes)

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes ohebiaeth gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gan gynnwys cais am estyniad i'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ac oedi cyfatebol i ddyddiad y ddadl cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Oedolion Terfynol Sâl (Diwedd Oes).

Cytunodd y Trefnydd i ymgynghori ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch y cais ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Reolwyr Busnes yn dilyn y cyfarfod.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ei bod yn bwysig bod cyfle i'r Senedd drafod y Bil cyn diwedd tymor y Chweched Senedd.