Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:30)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd dim ymddiheuriadau.

 

(09:30)

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2025

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

(09:30)

3.

Papurau i'w Nodi

3.1

Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch newidiadau i Brotocol Proses y Gyllideb

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(09:30 - 10:00)

4.

Adolygiad o’r prosesau ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Bil Aelod

4.1

Amserlenni biliau

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y papur, a daeth i benderfyniadau mewn perthynas â'r materion oedd yn weddill ynghylch amserlennu Biliau.

 

Diolchodd y Pwyllgor i'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a Phwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau am rannu eu barn ar dreialu cyhoeddi fersiynau cyn-cyflwyno o'r Biliau a gyflwynir ym mlwyddyn olaf y Chweched Senedd gan Lywodraeth Cymru. Cytunodd i gyhoeddi llythyrau'r Pwyllgorau ar dudalen we yr adolygiad.

(10:00 - 10:30)

5.

Grwpiau a Grwpiadau Gwleidyddol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar y Rheolau Sefydlog, a chytunodd arno.