Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Adam Vaughan Graeme Francis
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd
dim ymddiheuriadau. |
||
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf 2025 Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol, yn amodol ar
welliannau y gofynnwyd amdanynt. Nododd y Pwyllgor ddiweddariad ynghylch eitem 5 (Materion
amrywiol sy'n deillio o'r adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol), yn
dilyn ei gytundeb ar 9 Gorffennaf 2025 y dylid cynnal trafodaethau pellach
rhwng swyddogion Comisiwn y Senedd a swyddogion Llywodraeth Cymru ynghylch
mecanweithiau ar gyfer ystyried materion technegol yn ymwneud â Biliau.
Cytunodd y Pwyllgor nad oedd angen dim camau pellach. |
||
(9.30) |
Cofrestru buddiannau Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor y papur a chytunodd i ddychwelyd at
y materion yn y cyfarfod ar 9 Hydref 2025, pan fydd yr Aelodau wedi ymgynghori
â'u grwpiau. Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth mewn perthynas
ag argymhelliad 11 o adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad. Nododd yr Aelodau eu diddordeb yng nghynnydd ymchwiliad y
Pwyllgor Safonau Ymddygiad i Gofrestru a Datgan Buddiannau. |
|
(10:00) |
Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Deunyddiau esboniadol ar gyfer Biliau Cofnodion: Nododd yr Aelodau gymhariaeth o ran gofynion mewn deddfwrfeydd eraill,
ystyriodd y papur a chytunodd ar y canlynol:
|
|
|
Deunydd esboniadol |
||
|
Cymharu’r gofynion o ran deunyddiau esboniadol |
||
(11.00) |
Trothwyon Rheolau Sefydlog (ag eithrio'r trothwy ar gyfer grwpiau gwleidyddol) Cofnodion: Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft ar y Rheolau
Sefydlog a chytunwyd arno. |
|
|
Diwygio Rheolau Sefydlog: Trothwyon yn y Rheolau Sefydlog |
||
(11.20) |
Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor Cofnodion: Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft ar y Rheolau
Sefydlog, a chytunwyd arno yn amodol ar newidiadau y gwnaed cais amdanynt. |
|
(11.40) |
Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Cyfranogi’n rhithwir, a phleidleisio mewn pwyllgorau (newidiadau arfaethedig i Reolau Sefydlog, a chanllawiau drafft ar gyfer ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion) Cofnodion: Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft ar y Rheolau
Sefydlog a chytunwyd arno. Cytunodd yr Aelodau dros dro ar y diwygiadau arfaethedig
i'r canllawiau ar drafodion rhithwir a hybrid, ac y dylai'r newidiadau hyn ddod
i rym yn y Chweched Senedd, yn amodol ar ymgynghori â Fforwm y Cadeiryddion yn
ei gyfarfod nesaf. |
|
|
Cymryd rhan yn rhithwir mewn trafodion, a dulliau pleidleisio mewn pwyllgorau |
||
|
Atodiad 1 - Adroddiad drafft (Saesneg yn unig) |
||
|
Atodiad 2 - Canllawiau diwygiedig drafft (Saesneg yn unig) |
PDF 134 KB