Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Alun Davidson  Graeme Francis

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds a David Rees.

(10.30)

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2025

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol.

(10.35)

3.

Trothwyon y rheolau sefydlog

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y papurau yn ymwneud â throthwyon Rheolau Sefydlog a'r argymhellion a wnaed yn flaenorol gan Bwyllgor Senedd y Dyfodol.

Trafododd yr Aelodau’r trothwy ar gyfer grwpiau a grwpiadau gwleidyddol a chytunwyd i ddychwelyd at hyn mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Cytunwyd, at ddibenion rhaglen waith weithdrefnol y Pwyllgor Busnes, y gellir tybio trothwy o bum aelod ar gyfer grwpiau a grwpiadau gwleidyddol am y tro.

Ni fyddwn yn ceisio penderfyniad terfynol ar y trothwy ar gyfer grwpiau a grwpiadau gwleidyddol nes bod ystyriaeth bellach wedi'i rhoi i oblygiadau ehangach, a’n bod wedi ymgynghori â’r grwpiau gwleidyddol.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar bob newid arall i drothwyon y Rheolau Sefydlog a gafodd eu hargymell gan Bwyllgor Senedd y Dyfodol.

3.1

Trothwyon Rheolau Sefydlog: Argymhellion Pwyllgor Senedd y Dyfodol

3.2

Y Trothwy ar gyfer Enwebu Cadeiryddion Pwyllgorau: Argymhellion Pwyllgor Senedd y Dyfodol

(11.05)

4.

Categorïau o Aelodau

Cofnodion:

Cytunwyd ar y newidiadau arfaethedig i’r Rheolau Sefydlog, yn amodol ar rai mân welliannau.

Nododd y Llywydd yr angen i gynnal adolygiad golygyddol o’r Rheolau Sefydlog tua diwedd rhaglen waith weithdrefnol y Pwyllgor Busnes, o ystyried nifer y newidiadau sy'n debygol o gael eu cynnig i'r Rheolau Sefydlog.

4.1

Categorïau o Aelodau: Adroddiad Drafft ar Ddiwygio Rheolau Sefydlog

4.2

Diwygio Rheolau Sefydlog: Categorïau o Aelodau

(11.20)

5.

Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor

Cofnodion:

Dywedodd Paul Davies, er nad oedd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cytuno â'r model arfaethedig o rannu swyddi cadeirydd pwyllgor, gan fod grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn ffafrio model Cadeirydd ac Is-gadeirydd, maent yn cydnabod bod y mwyafrif o blaid y cynigion ac felly byddent yn gweithio’n adeiladol i’w datblygu.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y cynigion ar gyfer treial rhannu swyddi cadeirydd pwyllgorau, ac y dylai'r Rheolau Sefydlog dros dro er mwyn gweithredu’r treial gyfyngu’r treial i uchafswm o dri phwyllgor.

5.1

Rhannu swydd cadeirydd pwyllgor: Cytuno ar y cynnig terfynol

(11.50)

6.

Adolygiad o’r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Cofnodion:

Ni chytunodd y Trefnydd â'r opsiynau a argymhellwyd yn y papur cysylltiedig, a chynigiodd opsiynau eraill.

Cytunodd yr Aelodau y dylid cynnal trafodaethau pellach rhwng Comisiwn y Senedd a swyddogion Llywodraeth Cymru cyn dychwelyd at yr eitem hon mewn cyfarfod yn y dyfodol.

6.1

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Derbyniadwyedd gwelliannau 'union debyg'

(12:05)

7.

Adolygiad o’r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyhoeddi'r dystiolaeth a gyflwynwyd, ochr yn ochr â llythyr a ddaeth i law gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.

7.1

Adolygiad o’r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Cyhoeddi tystiolaeth

7.2

Atodiad 1: Materion a godwyd yn ystod sesiwn galw heibio i Aelodau

7.3

Atodiad 2: Materion a godwyd gan Aelodau a swyddogion a chanddynt brofiad o Filiau Aelod

7.4

Atodiad 3: Materion a godwyd gan Fforwm y Cadeiryddion

8.

Adolygiad o’r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod

Cofnodion:

Ymddiheurodd Paul Davies y bydd yn absennol ar gyfer y cyfarfod nesaf ddydd Iau 26 Mehefin 2025. Bydd Darren Millar yn ymuno â’r cyfarfod fel dirprwy.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn rhithwir.

8.1

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Biliau Aelod

8.2

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelodau: canlyniadau Biliau Aelod

8.3

Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelodau: cymharu gweithdrefnau Biliau Aelodau