Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd dim ymddiheuriadau.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Busnes yr Wythnos Hon

 

Dydd Mawrth 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn Cyfnod 3 y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru)
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.50pm.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y bydd y Llywydd yn galw egwyl rhwng y Cyfnod Pleidleisio a dechrau trafodion Cyfnod 3.

 

Dydd Mercher

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y newid a ganlyn

 

  • Dadl Fer: Tom Giffard AS (Gorllewin De Cymru) (30 munud) - wedi’i ganslo

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.  
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.30pm.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes fod Tom Giffard wedi gofyn am ohirio ei ddadl fer ond penderfynwyd peidio â'i haildrefnu i ddyddiad diweddarach.

 

Gofynnodd Heledd Fychan am ddiweddariad ar y pwynt a godwyd ganddi mewn cyfarfod blaenorol ynghylch pam nad yw Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol bellach yn gwneud Datganiad Llafar i nodi dyddiad y cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau. Nododd y Trefnydd ei bod wedi trafod y mater hwn gyda’r Ysgrifennydd Cabinet ac y byddai cyfle i Aelodau godi'r mater hwn yn y Cwestiynau Llafar iddo yr wythnos hon. Dywedodd y byddai'n trafod ymhellach â’r Ysgrifennydd Cabinet.

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 9 Rhagfyr 2025

·       Dadl: Cyfnod 4 y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) (15 munud)

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu’r eitemau canlynol ar amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 14 Ionawr 2026 -

  • Dadl ar ddeiseb P-05-1555 Adolygu’r holl ganllawiau ar gludiant rhwng y cartref a’r ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim i addysg (30 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl fer (30 munud)

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Llythyr gan Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau ynglŷn â thrafodion Cyfnod 2

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y llythyr ar y cyd ag eitem 4.2.

 

4.2

Llythyr gan Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau ynglŷn ag effaith yr amserlen ar waith craffu

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes yr ohebiaeth gan Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau a'r materion a godwyd mewn perthynas ag amserlennu cyfarfodydd y pwyllgor a phryderon a amlygwyd gan randdeiliaid ynghylch yr amserlen ar gyfer ymgynghori ar y Bil a chraffu arno.

 

Roedd Paul Davies yn cefnogi'r pryder a godwyd ynghylch faint o amser sydd ar gael i'r Pwyllgor, ac eraill, ar gyfer craffu ar y Bil yng Nghyfnod 1.

 

Dychwelodd y Pwyllgor Busnes i drafod y mater o gyfeirio'r Bil ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 2. Ailadroddodd Paul Davies a Heledd Fychan mai eu dewis oedd i drafodion Cyfnod 2 gael eu cynnal gan Bwyllgor o'r Senedd Gyfan. Nododd y Trefnydd mai barn Llywodraeth Cymru o hyd oedd i drafodion Cyfnod 2 gael eu cyfeirio at Bwyllgor y Bil Atebolrwydd Aelodau, gan nodi bod diffyg amser ar gael i Bwyllgor o'r Senedd Gyfan gyfarfod yng ngoleuni trafodion deddfwriaethol eraill a drefnwyd ym mis Chwefror 2026.

 

Cynigiodd y Llywydd y gallai'r Pwyllgor Busnes ystyried yr opsiwn o roi amser ar gyfer trafodion Cyfnod 2 i gael eu cynnal mewn Pwyllgor o'r Senedd Gyfan ar brynhawn Mercher drwy leihau faint o Fusnes y Senedd a gaiff ei drefnu yn y Cyfarfod Llawn y diwrnod hwnnw.

 

Cytunodd y Trefnydd i drafod y mater ymhellach gyda'r Gweinidog sy'n Gyfrifol am y Bil. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd at y mater er mwyn gwneud penderfyniad yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor Busnes.

 

4.3

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad gan y Trefnydd a chytunodd i gyfeirio’r Memorandwm ar y Bil Seiberddiogelwch a Seiberwydnwch (Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth) at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 13 Chwefror 2026.

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn gwneud cais am ddadl

Cofnodion:

Datganodd Heledd Fychan ddiddordeb ar yr eitem hon: roedd hi wedi cymryd rhan yng nghyfarfod y Pwyllgor Deisebau pan gytunodd i wneud cais am ddadl ar y ddeiseb.

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cais a chytunodd i drefnu dadl ar ddeiseb P-06-1555 Adolygu'r holl ganllawiau ar Drafnidiaeth o'r Cartref i'r Ysgol ar gyfer Cymru gyfan. Mynediad am ddim i addysg ar 14 Ionawr 2026.

 

5.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch ymweliad â Dulyn, Iwerddon.

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y cais i Aelodau gael eu hesgusodi o fusnes y Cyfarfod Llawn ar 24 a 25 Chwefror 2026, a chytunwyd iddo.