Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Jane Dodds AS. 

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. 

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth 25 Tachwedd 2025

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y newidiadau a ganlyn:

  • Datganiad gan y Prif Weinidog: Ymchwiliad COVID-19 y DU: Adroddiad Modiwl 2 (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch: Dyfodol Addysg Drydyddol yng Nghymru - Cynaliadwyedd a Chyfranogiad (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Gwella Amseroedd Aros (45 munud) - gohiriwyd

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.55pm.

 

Dydd Mercher 26 Tachwedd 2025

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y newid a ganlyn

  • Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd (30 15 munud)

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.45pm.

 

Gofynnodd Heledd Fychan a Paul Davies pryd y byddai'r Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar Wella Amseroedd Aros yn cael ei aildrefnu. Esboniodd y Trefnydd fod y datganiad wedi'i ohirio oherwydd materion yn ymwneud ag ansawdd data a nododd y byddai'n cael ei ail-drefnu ar gyfer dechrau mis Ionawr 2026.

 

Cwestiynodd Heledd Fychan a oedd y 45 munud a neilltuwyd i'r Datganiad gan y Prif Weinidog ar Ymchwiliad Covid-19 y DU: Adroddiad Modiwl 2 yn ddigonol o ystyried y lefel debygol o ddiddordeb gan Aelodau. Nododd y Llywydd y bydd yn ystyried caniatáu i'r eitem fynd heibio i'r amserlen er mwyn sicrhau y gellir galw digon o Aelodau.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 2 Rhagfyr 2025

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: 10 mlynedd ers cyflwyno’r cydsyniad tybiedig ar gyfer rhoi organau (45 munud) - bydd yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig

 

Gofynnodd Heledd Fychan pam na fyddai'r Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar roi organau yn ddatganiad llafar, o ystyried pwysigrwydd y mater. Nododd y Trefnydd fod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi nodi nad oedd yn ystyried bod digon o sylwedd i warantu datganiad llafar, gan nodi hefyd hyd y trafodion a drefnwyd ar gyfer 2 Rhagfyr sy'n cynnwys Cyfnod 3 y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru). Dywedodd y Trefnydd y byddai'n trafod y pwynt a godwyd gyda’r Ysgrifennydd Cabinet.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu’r eitemau canlynol ar amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 17 Rhagfyr 2025

  • Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) (60 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: John Griffiths AS (Dwyrain Casnewydd) (30 munud)

 

Nododd y Rheolwyr Busnes y bydd y penderfyniad ariannol ar gyfer Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) yn cael ei drafod ddydd Mercher 17 Rhagfyr, yn syth ar ôl y ddadl ar yr Egwyddorion Cyffredinol.

 

4.

Pwyllgorau

4.1

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gwneud cais am slot cyfarfod amgen ar gyfer y Pwyllgor

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn gofyn am slot cyfarfod arall ar gyfer yr wythnos hon a bod hyn wedi'i gytuno y tu allan i'r pwyllgor yr wythnos diwethaf oherwydd natur frys y cais.