Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd
dim ymddiheuriadau. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Nododd y Pwyllgor Busnes y newid a ganlyn:
Dydd Mercher
|
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y
newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos
nesaf: Dydd Mawrth 2 Rhagfyr 2025 · Cynnig o dan
Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar yr eitemau canlynol gyda’i gilydd ond gyda
phleidleisiau ar wahân (30 munud) o
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon)
(Cymru) 2025; o
Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd
Cyfrif Allyriadau Net Cymru) (Cymru) 2025 o
Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) (Diwygio) 2025 Gofynnodd Heledd Fychan am gadarnhad y byddai'r Gweinidog
Addysg Bellach ac Uwch yn gwneud datganiad yn y Senedd ar ddyfodol y sector
addysg drydyddol, fel y nodwyd gan y Trefnydd yn ystod Datganiad a Chyhoeddiad
Busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf. Cadarnhaodd y Trefnydd ei bod yn bwriadu ychwanegu'r
datganiad at yr agenda ar gyfer Cyfarfod Llawn 25 Tachwedd, yn amodol ar
gytundeb y Cabinet. |
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnwys y busnes a ganlyn ar
yr amserlen: Dydd Mercher 10 Rhagfyr 2025
·
Dadl Fer: Carolyn Thomas AS
(Gogledd Cymru) (30 munud)
|
|
|
Pwyllgorau |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn gwneud cais am ddadl Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cais a chytunodd i drefnu
dadl ar ddeiseb P-06-1534 Rhoi diwedd ar ofal mewn coridorau yng Nghymru yn
y Cyfarfod Llawn ar 10 Rhagfyr. |
|
|
Llythyr gan y Prif Weinidog at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ynglŷn â chraffu ar fylchau a nodwyd gan Bwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad COVID-19 Cymru a Modiwl 2 Ymchwiliad Covid-19 y DU Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr, a chadarnhad y Prif
Weinidog y bydd yn bresennol mewn sesiwn dystiolaeth ffurfiol gyda'r Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ym mis Ionawr 2026. |
|
|
Trefniadau Cyflwyno |
|
|
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Nadolig Cofnodion: Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau arfaethedig ar
gyfer: · gosod dogfennau yn ystod cyfnod y Nadolig; · cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn ystod wythnos gyntaf y tymor a
gwelliannau i Filiau; a · cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig yn ystod toriad y Nadolig. |
PDF 193 KB