Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Jane Dodds AS. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth
Dydd Mercher
·
Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol
o fynd y tu hwnt i 7.00pm. |
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y
newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos
nesaf: Dydd Mawrth 18 Tachwedd 2025
Dydd Mawrth 25 Tachwedd 2025
|
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf - wedi’i diwygio Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i
amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mercher 19 Tachwedd 2025 -
Dydd Mercher 26 Tachwedd 2025 -
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i amserlennu dadl ar ddeiseb P-05-1456:
Ymchwiliad cyhoeddus llawn i gau canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yng
nghanolbarth a gogledd Cymru, oedd wedi cael ei oedi oherwydd achosion
adolygiad barnwrol. |
|
|
Dadleuon Agored: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor Busnes y pynciau a gynigiwyd a chytunodd
i amserlennu’r pwnc canlynol ar 19 Tachwedd 2025: Julie Morgan: NNDM9046 A fyddai treth gyfoeth yn gweithio
i Gymru? Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai'r ddadl hon yn nodi
diwedd y treial y cytunwyd arno ac mae'n debygol mai dyma'r Ddadl Agored olaf
i'w threfnu yn ystod tymor y Senedd hwn. Yn dilyn yr adolygiad interim a gynhaliwyd ar 23 Medi,
nododd y Rheolwyr Busnes nad oeddent yn bwriadu cynnal adolygiad pellach o'r
fformat ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gadw Dadleuon Agored yn eu
fformat presennol o fewn y canllawiau perthnasol i'w defnyddio o bosibl mewn
tymhorau Senedd yn y dyfodol, yn ôl disgresiwn Pwyllgorau Busnes yn y dyfodol. |
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y
Trefnydd a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:
·
Cyfeirio'r Memorandwm Atodol (Rhif
2) ar y Bil Dioddefwyr a Llysoedd at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 16
Ionawr 2026. |
|
|
Unrhyw Fater Arall Cofnodion: Nododd y Rheolwyr Busnes fod y Canllawiau ar Drafodion
Rhithwir a Hybrid wedi’u hailgyhoeddi yr wythnos diwethaf a’u dosbarthu i bob
Aelod, yn dilyn cytundeb y Senedd ar newidiadau i Reol Sefydlog 17 ynghylch
pleidleisio mewn pwyllgorau. Felly, mae'r diwygiadau y cytunwyd arnynt yn flaenorol
gan y Pwyllgor Busnes – gan gynnwys disgwyliadau mewn perthynas â chyfranogiad
wyneb yn wyneb gan Aelodau mewn trafodion cyfnodau diwygio ar ddeddfwriaeth –
bellach mewn grym. |
PDF 191 KB