Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis  Sarah Sargent

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd dim ymddiheuriadau.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Dydd Mawrth 

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.20pm.

 

 

Dydd Mercher

  • Cynnig i ethol aelod i bwyllgor
  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer. 
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 7.05pm.

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 14 Hydref 2025

  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill) (15 munud)gohiriwyd tan 21 Hydref

 

Dadl ar Ddatganiad: Mae'r Gyllideb Ddrafft Amlinellol 2026-27 (90 munud) wedi'i symud o ddiwedd y cyfarfod i'r eitem gyntaf ar ôl y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes.

 

Dydd Mawrth 21 Hydref 2025

  • Rheoliadau Safonau Marchnata Cig Dofednod Maes (Diwygio) (Cymru) 2025 (5 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill) (15 munud)

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 22 Hydref 2025 –

  • Dadl ar ddeiseb: P-06-1538 Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais; atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo (30 munud)

 


Dydd Mercher 5 Tachwedd 2025 –

  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl ar yr adroddiad traws-bwyllgor ar adolygiad gweithredu’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer: Joel James AS (Canol De Cymru) (30 munud)

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar yr hyn a ganlyn mewn perthynas â’r ddadl ar yr adroddiad traws-bwyllgor ar adolygiad gweithredu’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE:

  • Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol (CCWLSIR) fydd yn agor y ddadl gyda sylwadau cyffredinol ar y dull cyfunol a'r themâu cyffredinol;
  • Yna bydd cadeiryddion y pwyllgorau eraill (CCEI, ETRA a LJC) yn cael eu galw i gyfrannu yn ystod y ddadl ar eu hadrannau penodol o'r adroddiad (cyn y llefarwyr ond o fewn yr amseroedd cyfrannu arferol o 5 munud);
  • Cadeirydd CCWLSIR fydd yn cloi'r ddadl.

 

3.4

Dadleuon Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cynigion posibl i’w trafod ar 15 Hydref 2025 a chytunodd i amserlennu’r ddadl Aelod ganlynol a gyflwynwyd gan Adam Price:

 

NNDM8884

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod enseffalomyelitis myalgig (ME) yn salwch cronig sy’n anablu ar bob lefel o ddifrifoldeb.
2. Yn nodi bod 25%, o’r rhai sy'n dioddef o ME, yn cael eu categoreiddio gan NICE fel ‘difrifol: yn bennaf yn gaeth i’r gwely neu’r tŷ’, a ‘difrifol iawn: gyfan gwbl gaeth i’r gwely’, sy'n gofyn am ofal llawn amser ac, yn yr achosion mwyaf difrifol, gofal lliniarol a bwydo drwy diwb.
3. Yn gresynu mai’r rhai sydd yn aml â'r lefelau uchaf o ddifrifoldeb ME sy'n cael y lleiaf o ofal a thriniaeth briodol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ymateb i'r pryderon a godir yn Adroddiad y Crwner yn Lloegr, Prevention of Future Deaths, ac esbonio pa gamau ymarferol y bydd yn eu cymryd i sicrhau na fydd unrhyw glaf yng Nghymru fyth yn cael ei roi mewn amgylchiadau mor drasig â'r rhai a ddisgrifir yn yr adroddiad;
b) sicrhau bod gwasanaethau ME a ariennir gan Adferiad yn gwneud darpariaeth sy’n briodol i anghenion cleifion sydd ag ME difrifol a difrifol iawn;
c) dwyn ynghyd grŵp arbenigol o weithwyr iechyd proffesiynol a phobl sydd â phrofiad byw, ar lefel genedlaethol, i ddatblygu canllawiau a safonau ansawdd Cymru Gyfan ar ME, gan gynnwys ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt yn fwyaf difrifol;
d) gwneud penodi ymgynghorydd arbenigol Cymru gyfan ar gyfer cyflyrau cronig ôl-heintus - gan gynnwys ME a Covid hir - yn flaenoriaeth;
e) gwella'r hyfforddiant ar ME ar gyfer gweithwyr proffesiynol, yn gyntaf yn y GIG, ond hefyd mewn gwasanaethau cymdeithasol ac ysgolion: yn benodol, codi ymwybyddiaeth o anghenion gofal oedolion a phlant sydd ag ME difrifol a difrifol iawn; ac
f) sicrhau bod byrddau iechyd yn wirioneddol gyd-gynhyrchu eu gwasanaethau Adferiad ME a Covid hir, gan ystyried profiadau byw y rhai sy'n dioddef ar y lefelau mwyaf difrifol a'r rhai sy'n gofalu amdanynt.

Maeve Boothby O'Neill: Adroddiad Prevention of Future Deaths

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd i wneud yr hyn a ganlyn:

  • cyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Swyddi Cyhoeddus (Atebolrwydd) at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i graffu arno, gyda dyddiad cau i gyflwyno adroddiad ar 19 Rhagfyr 2025; a
  • nodi bod y Memorandwm Atodol (Rhif 6) ar y Bil Iechyd Meddwl wedi'i osod ar 30 Medi 2025 ac wedi'i gyfeirio ymlaen llaw i graffu arno gyda dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar 7 Hydref yn y cyfarfod blaenorol.

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Gwaith craffu’r pwyllgor ar Fil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)

Cofnodion:

Bydd Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) yn cael ei gyflwyno i'r Senedd ddydd Llun 3 Tachwedd 2025.

 

Trafododd y Pwyllgor Busnes y mater a chytunodd ar yr hyn a ganlyn:

  • cynnig sefydlu pwyllgor Bil annibynnol i weithredu fel y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 26.9
  • teitl a chylch gwaith arfathedig y pwyllgor;
  • trefniadau ar gyfer cadeirio ac aelodaeth y pwyllgor, i gynnwys:

a) y byddai'r Dirprwy Lywydd yn cael ei benodi'n Gadeirydd,

b) ei fod yn cynnwys pedwar Aelod (2 o Llafur Cymru, 1 o’r Ceidwadwyr Cymreig ac 1 o Blaid Cymru), gan gynnwys y cadeirydd; a

c) datgymhwyso Rheol Sefydlog 17.2A – 17.2S mewn perthynas ag ethol cadeirydd;

  • rhoi hyblygrwydd i’r pwyllgor gwrdd, o fewn amserlen y pwyllgorau.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes hefyd i ymgynghori â'u grwpiau

  • ynghylch a ddylid cynnig o dan Reol Sefydlog 26.17, ar yr amser priodol, y dylid cynnal trafodion Cyfnod 2 ar y Bil mewn Pwyllgor o'r Senedd Gyfan.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ddychwelyd i'r Pwyllgor Busnes yr wythnos nesaf gydag enwau Aelodau ar gyfer y Pwyllgor.

 

 

5.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau yn gwneud cais am ddadl

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu dadl ar ddeiseb P-06-1538 Diogelu gwasanaethau strôc llawn yn Ysbyty Bronglais; atal yr israddio i Drin a Throsglwyddo ddydd Mercher 22 Hydref.

 

6.

Unrhyw Fater Arall

Cofnodion:

Cododd y Llywydd y mater o reolau a chanllawiau ynghylch y cyfnod pleidleisio yn dilyn enghreifftiau diweddar o Aelodau'n pleidleisio o gerbydau neu wrth deithio.

 

Gwahoddodd y Llywydd y Rheolwyr Busnes i ystyried ymhellach yr opsiynau ynghylch egluro'r canllawiau a nododd y bydd y Pwyllgor Busnes yn dychwelyd at y mater hwn eto yn ei gyfarfod nesaf.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i newid aelodaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, gyda lle i'w ddyrannu i Aelod Annibynnol, yn lle Aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnig y dylid ethol Russell George AS i fod yn aelod o’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg (Joel James AS sydd ar y pwyllgor ar hyn o bryd) ac y bydd hyn yn cael ei ychwanegu at yr agenda ar gyfer dydd Mercher 8 Hydref.