Eitemau
| Rhif |
Eitem |
1. |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cofnodion:
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Jane Dodds AS.
|
2. |
Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cofnodion:
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
|
3. |
Trefn Busnes
|
3.1 |
Busnes yr wythnos hon
Cofnodion:
Dydd Mawrth
- Ni fydd Cyfnod Pleidleisio
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y
tu hwnt i 6.00pm.
Dydd Mercher
Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes y caiff yr eitemau
canlynol eu hychwanegu at yr agenda, yn amodol ar gadarnhad gan y grŵp Llafur o'r Aelodau y mae'n dymuno eu henwebu:
- Cynnig i benodi Aelod i Gomisiwn y Senedd (5
munud)
- Cynnig i benodi Aelod i bwyllgor (5 munud)
- Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y
Ddadl Fer.
- Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y
tu hwnt i 7.00pm.
|
3.2 |
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cofnodion:
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y
newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos
nesaf:
Dydd Mawrth 7 Hydref 2025
- Point Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog
ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
: Parodrwydd
at Lifogydd y Gaeaf Cynllunio i Wrthseffyll Tywydd y Gaeaf (45
munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros
Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip: Parodrwydd ar gyfer y
Gaeaf – Cadw Pobl yn Gynnes y Gaeaf hwn (45 munud)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil
Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill) (15 munud) – gohiriwyd tan 14 Hydref
Dydd Mawrth 14 Hydref 2025
- Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol
(Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2025 (15 munud)
- Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil
Awdurdodau Cyhoeddus (Twyll, Gwallau ac Adennill) (15 munud)
|
3.3 |
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cofnodion:
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i
amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 8 Hydref 2025 –
- Cynnig i ddiddymu Pwyllgor Diben Arbennig
Ymchwiliad COVID-19 Cymru (5 munud)
Dydd Mercher 22 Hydref 2025 –
- Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant,
Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol: Codi tâl am
arddangosfeydd (60 munud)
- Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60
munud)
- Dadl Fer: Laura Anne Jones (Dwyrain De Cymru)
(30 munud)
|
3.4 |
Amserlennu Cwestiynau Amserol
Cofnodion:
Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at drafod cynnig i symud
Cwestiynau Amserol, ar sail brawf, fel y byddent yn cael eu cymryd fel yr eitem
olaf cyn y Cyfnod Pleidleisio ar ddydd Mercher.
Cytunodd mwyafrif y Pwyllgor Busnes i beidio â gwneud y
newid arfaethedig. Nododd y Rheolwyr Busnes y gellid ailedrych ar amserlennu
Cwestiynau Amserol fel rhan o drafodaethau’r Pwyllgor Busnes, sydd ar y gweill,
ar amserlennu busnes y Senedd yn y Seithfed Senedd.
|
4. |
Deddfwriaeth
|
4.1 |
Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch yr amserlen ar gyfer y Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru)
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb gan Gadeirydd
Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar yr amserlen arfaethedig ar
gyfer y Bil a chytunodd ar yr amserlen.
|
4.2 |
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad gan y Trefnydd a
chytunodd i ymestyn y terfynau amser adrodd ar gyfer y memoranda cydsyniad
deddfwriaethol canlynol:
- Bil Cynlluniau Pensiwn tan 21 Tachwedd 2025
- Bil Troseddu a Phlismona tan 21 Tachwedd 2025
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gyfeirio rhagblaen y
memorandwm atodol (Rhif 6) ar y Bil Iechyd Meddwl, y dywedodd y Trefnydd ei bod
yn disgwyl iddo gael ei osod yr wythnos hon, at y Pwyllgor Iechyd a Gofal
Cymdeithasol a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu
arno. Cytunwyd ar 7 Hydref fel y terfyn amser adrodd er mwyn caniatáu yr amser
mwyaf posibl ar gyfer gwaith craffu gan bwyllgor cyn y ddadl ar yr un diwrnod.
|
5. |
Comisiwn y Senedd
|
5.1 |
Aelodaeth Comisiwn y Senedd
Cofnodion:
Yng ngoleuni'r
lle gwag ar Gomisiwn y Senedd, penderfynodd y Pwyllgor Busnes y dylid gwahodd y
Grŵp Llafur i enwebu
Aelod i fod yn bedwerydd Aelod o Gomisiwn y Senedd.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig i'w ystyried yn y Cyfarfod Llawn yfory, yn
amodol ar gadarnhad yr Aelod i'w enwebu.
|
6. |
Amserlen y Senedd
|
6.1 |
Dyddiadau Toriadau
Cofnodion:
Cadarnhaodd y
Pwyllgor Busnes y dyddiadau ar gyfer Hanner Tymor y Gwanwyn a Thoriad y Pasg
2026, sy'n rhedeg hyd at ddiwedd y Senedd bresennol.
|
7. |
Unrhyw Fusnes Arall
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor
Busnes fod Laura Anne Jones AS wedi dweud nad yw'n dymuno manteisio ar y cynnig
o le ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Cytunodd yr Aelodau i
ddychwelyd at y mater yn y cyfarfod dilynol.
|