Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Lleoliad Allanol. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis Alun Davidson
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd
dim ymddiheuriadau. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi. |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes
am y newidiadau a ganlyn:
Dydd
Mercher Rhoddodd y
Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am yr ychwanegiadau a ganlyn:
|
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y Trefnydd
wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen Busnes y Llywodraeth
ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth
7 Hydref 2025 · Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog
ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Parodrwydd ar
gyfer Llifogydd y Gaeaf (45 munud) |
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i
amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd
Mercher 15 Hydref 2025 – ·
Dadl
Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud) ·
Dadl ar
adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Adroddiad ar
berfformiad Trafnidiaeth Cymru 2024-25 (60 munud) ·
Amser a
neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
|
|
|
Cynigion Deddfwriaethol yr Aelodau: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y cynigion a chytunodd i
amserlennu’r cynnig canlynol i’w drafod ar 1 Hydref: Mick Antoniw NNDM8981 Cynnig bod y Senedd: 1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar dipio anghyfreithlon i
wneud i lygrwyr dalu am gostau clirio ac i gryfhau mesurau ataliol. 2. Yn nodi mai pwrpas y Bil hwn fyddai cryfhau
deddfwriaeth a diwygio'r gyfraith ar dipio anghyfreithlon o ran: a) ei gwneud yn ofynnol i droseddwyr dalu costau llawn
ymchwiliadau a chlirio a wneir gan yr awdurdod lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru
neu unigolion preifat; b) ei gwneud yn ofynnol i ynadon orchymyn atafaelu
cerbydau ym mhob achos o dipio anghyfreithlon profedig; c) darparu hyfforddiant priodol i ynadon i wella
dealltwriaeth o effaith lawn tipio anghyfreithlon ar gymunedau, yr amgylchedd
ac iechyd y cyhoedd; a d) gosod gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i
ymchwilio i bob achos o dipio anghyfreithlon. |
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch amserlen y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Busnes ymateb gan Gadeirydd y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau
Rhyngwladol ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer y Bil a chytunodd ar yr
amserlen. Rhoddodd swyddogion y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa
debygol o ran Adolygiad Barnwrol posibl. Hefyd nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gadeirydd y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau
Rhyngwladol at y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid
Hinsawdd a Materion Gwledig ynglŷn â’r Bil. |
|
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Nododd y Pwyllgor Busnes fod y Memorandwm Atodol (Rhif 4)
ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2) wedi'i osod ar 15 Medi a'i fod wedi'i
gyfeirio ymlaen llaw at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith
a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn y cyfarfod blaenorol. |
|
|
Pwyllgorau |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn gofyn am slotiau cyfarfod ychwanegol Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar gais i'r Pwyllgor Cyllid
gynnal cyfarfodydd ychwanegol y tu allan i'w slot arferol ar yr amserlen at
ddiben craffu ar Gyllideb Ddrafft 2026-27. |
|
|
Gwaith Gweithdrefnol |
|
|
Dadleuon Agored: adolygiad interim Cofnodion: Adolygodd y Pwyllgor Busnes y profiad o ran y ddwy ddadl
agored a gynhaliwyd hyd yma, gwnaethant nodi eu barn gadarnhaol am y fformat a
chytunwyd i beidio â gwneud unrhyw addasiadau cyn y ddadl derfynol i'w
hamserlennu fel rhan o'r treial. |
PDF 191 KB