Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Graeme Francis  Alun Davidson

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd dim ymddiheuriadau.

 

2.

Cofnodion y cyfarfod blaenorol

Cofnodion:

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

 

3.

Trefn Busnes

3.1

Busnes yr wythnos hon

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y newidiadau a ganlyn:

 

  • Teyrngedau i Hefin David AS
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Papur gwyrdd yn ceisio barn am newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru (45 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Iechyd Meddwl (15 munud) Gohiriwyd tan 7 Hydref

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.45pm.

 

Rhoddodd y Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am rai newidiadau i'r dyraniadau seddi yn y Siambr. Nododd y Llywydd hefyd ei bod wedi cytuno ar bleidleisiau drwy ddirprwy ar gyfer Luke Fletcher a Vikki Howells.

 

 

Dydd Mercher

 

  • Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal cyn y Ddadl Fer.  
  • Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.55pm.

 

 

3.2

Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mawrth 23 Medi 2025

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Diweddariad ar Gyflwyno'r Cwricwlwm (45 munud)

·       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2) (15 munud)

 

Dydd Mawrth 30 Medi 2025

·       Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) (60 munud)

·       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Blaenoriaethau ar gyfer Enwau Lleoedd Cymru (45 munud)

·       Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Dyfodol Ystad y Goron yng Nghymru (45 munud)

·       Datganiad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Ap GIG Cymru (45 munud)

 

Dywedodd y Trefnydd y bydd yn cadarnhau eitemau ychwanegol a fydd yn cael eu hychwanegu at yr agenda ar gyfer dydd Mawrth 23 Medi cyn gynted â phosibl.

 

 

3.3

Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cofnodion:

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

 

Dydd Mercher 24 Medi 2025 -

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Gwaith craffu blynyddol: Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru 2024 (30 munud)

 

Dydd Mercher 8 Hydref 2025 –

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: Cyfoeth Naturiol Cymru: Gwaith craffu blynyddol 2024-25 (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: Ymchwiliad cymorth tai i bobl sy’n agored i niwed (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
  • Dadl Fer: Heledd Fychan AS (Canol De Cymru) (30 munud)

 

 

4.

Deddfwriaeth

4.1

Amserlen ar gyfer y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru)

·       Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol at y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynghylch amserlen y Bil Milgwn (Cymru) – 21 Awst

·       Ymateb gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynghylch amserlen y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) – 11 Medi 2025

 

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes ei fod wedi cytuno i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i graffu ar yr egwyddorion cyffredinol. Cytunodd i ymgynghori’n ffurfiol â’r Pwyllgor hwnnw ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu, a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes yr ohebiaeth rhwng Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol a’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig. Nododd y Trefnydd fod y Bil wedi'i gyhoeddi mewn drafft, a bod Memorandwm Esboniadol drafft a dogfennaeth arall wedi'i rannu gyda'r Pwyllgor cyn ei gyflwyno.

 

Cododd y Llywydd y mater o gais am adolygiad barnwrol a sut y gallai hynny effeithio ar waith craffu ar y Bil. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ystyried cyngor pellach ar y mater hwn.

 

 

4.2

Amserlen ar gyfer Datblygu Bil Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru)

·       Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch amserlen y Bil Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) -10 Medi 2025

 

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes ei fod wedi cytuno i gyfeirio'r Bil at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig i graffu ar yr egwyddorion cyffredinol. Trafododd yr amserlen ddiwygiedig ar gyfer craffu a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru o'i gymharu â'r fersiwn a ystyriwyd cyn toriad yr haf. Nododd hefyd ohebiaeth a gafwyd yn flaenorol gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch yr anawsterau a achoswyd gan yr amserlen wreiddiol.

 

Mynegodd y Llywydd a'r Rheolwyr Busnes bryder am yr effaith y byddai colli pythefnos arall yn yr amserlen ar gyfer cyfnod 1 yn ei chael ar bwyllgorau a gofynnodd am ragor o wybodaeth am y rhesymau dros yr oedi. Ymatebodd y Trefnydd fod proses ddatblygu'r Bil wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl ac y bydd y Llywodraeth yn darparu fersiwn ddrafft o'r Bil i'r pwyllgor cyfrifol a rhanddeiliaid perthnasol bedair wythnos cyn ei gyflwyno, yn unol â'r dull a gymerwyd ar y Bil Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru). Cytunodd i gyflwyno’r pryderon a godwyd i gydweithwyr.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ymgynghori â Phwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer gwaith craffu, a dychwelyd at y mater mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

 

4.3

Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes ddiweddariad gan y Trefnydd a chytunwyd i:

 

  • Gyfeirio’r Memorandwm Atodol (Rhif 3) ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif 2) at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau diwygiedig ar gyfer cyflwyno pob memorandwm ar y Bil hwn ar 22 Medi 2025;
  • Nododd y Trefnydd y caiff Memorandwm Atodol arall (Rhif 4) ei osod yn ddiweddarach yr wythnos hon. Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Atodol hwnnw rhagblaen at yr un pwyllgorau gyda'r un dyddiad cau ag uchod ar gyfer adrodd, yng ngoleuni'r ddadl yn y Cyfarfod Llawn a drefnwyd ar gyfer 23 Medi;
  • Cyfeirio’r Memorandwm Atodol (Rhif 4) ar y Bil Cynllunio a Seilwaith at y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau diwygiedig ar gyfer cyflwyno pob memoranda ar y Bil hwn ar 17 Hydref 2025;
  • Nodi bod Memoranda’r Bil Lles Anifeiliaid (Mewnforio Cŵn, Cathod a Ffuredau) i fod i gael eu trafod y prynhawn yma, i beidio gosod dyddiad cau ar gyfer adrodd ar y Memorandwm Atodol (Rhif 2) a osodwyd yn ystod y toriad;
  • Cyfeirio'r Memorandwm Atodol (Rhif 5) ar y Bil Iechyd Meddwl at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i graffu arno, gyda dyddiad cau diwygiedig ar gyfer pob memorandwm ar 3 Hydref 2025.

 

 

4.4

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch Memorandwm Rhif 4 ar y Bil Iechyd Meddwl

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol am anawsterau o ran bodloni dyddiadau cau ar gyfer adrodd ar Femoranda.

 

 

5.

Pwyllgorau

5.1

Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor y Llywydd ynghylch ei slot cyfarfod

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais gan Bwyllgor y Llywydd iddo allu cwrdd ar fore 6 Tachwedd 2025.

 

 

5.2

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn gwneud cais am gyfarfod ychwanegol y pwyllgor

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gais gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad iddo gwrdd ar fore 4 Tachwedd 2025.

 

 

5.3

Cais gan Fwrdd yr Adolygiad o Senedd sy’n Ystyriol o Deuluoedd a Chynhwysol i fynd i Senedd yr Alban

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer yr ymweliad.

 

Unrhyw fater arall: Seddi gwag pwyllgorau

 

Nododd y Llywydd fod seddi gwag ar Gomisiwn y Senedd, Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Gofynnodd y grŵp Ceidwadol i'r Pwyllgor Busnes gytuno i gynnig bod Joel James AS yn cael ei ethol yn aelod o'r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

 

Dywedodd y Llywydd ei bod yn ofynnol i'r Pwyllgor Busnes gynnig o leiaf un lle i Laura Anne Jones AS ar bwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.10. Cytunodd y grŵp Ceidwadol i Laura Anne Jones gael cynnig un o'i leoedd ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

Cynigiodd y Llywydd fod y Pwyllgor Busnes yn ystyried y seddi gwag eraill mewn cyfarfod yn y dyfodol.