Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis Alun Davidson
| Rhif | Eitem |
|---|---|
|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd
ymddiheuriadau. |
|
|
Cofnodion y cyfarfod blaenorol Cofnodion: Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi |
|
|
Trefn Busnes |
|
|
Busnes yr wythnos hon Cofnodion: Dydd Mawrth Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn:
Rhoddodd y
Llywydd wybod i’r Rheolwyr Busnes y bydd yn galw seibiant byr rhwng y Cyfnod
Pleidleisio a dechrau trafodion Cyfnod 3 er mwyn hwyluso paratoadau terfynol,
ac y bydd yn ystyried seibiant pellach yn ystod trafodion Cyfnod 3 pe bai'r
Aelodau sy’n rhan ohono yn gwneud cais am hynny. Dydd
Mercher
|
|
|
Amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Rhoddodd y
Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i amserlen busnes y
Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf: Dydd Mawrth
16 Medi 2025 · Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol
a’r Gweinidog Cyflawni: Bil Cynllunio (Cymru) a Bil Cynllunio (Darpariaethau
Canlyniadol) (Cymru) (45 munud) Gofynnodd
Heledd Fychan am gadarnhad eto o pryd y byddai'r Datganiad gan Ysgrifennydd y
Cabinet dros Addysg ar Gynnydd Cyflwyno'r Cwricwlwm yn cael ei aildrefnu. Mewn
ymateb, cadarnhaodd y Trefnydd na fyddai Datganiad Llafar yn cael ei wneud cyn
toriad yr haf. Bydd Datganiad Ysgrifenedig yn cael ei gyhoeddi yr wythnos
nesaf, bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn ateb Cwestiynau Llafar ddydd Mercher
nesaf a bydd hefyd yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
ar y pwnc hwn ym mis Medi. Fodd bynnag, cytunodd y Trefnydd i drafod y
posibilrwydd o ddatganiad llafar ar y mater hwn yn gynnar yn nhymor yr hydref
gyda’r Ysgrifennydd Cabinet. |
|
|
Amserlen busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf Cofnodion: Cytunodd y
Rheolwyr Busnes ar y newidiadau canlynol i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y
tair wythnos nesaf: Dydd
Mercher 24 Medi 2025 – ·
Dadl ar
ddeiseb: P-06-1494 Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid mewn addysg rhag
toriadau Llywodraeth Cymru ac Awdurdodau Lleol (30 munud) ·
Dadl ar
adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Deallusrwydd
Artiffisial ac Economi Cymru: A all androidau Cymru freuddwydio am ddefaid
trydan? (30 munud)
Er mwyn
hwyluso presenoldeb gweinidogol, cytunodd y Rheolwyr Busnes i drefnu Dadl y
Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer cyllideb
2026–27 cyn y datganiad gan Mark Isherwood AS ar gyflwyno ei Fil Aelod: Bil
Iaith Arwyddion Prydain (Cymru), ddydd Mercher 16 Gorffennaf. |
|
|
Deddfwriaeth |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch yr amserlen ar gyfer y Biliau Cydgrynhoi Cynllunio Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes safbwyntiau’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad a chytunodd ar yr amserlenni ar gyfer craffu ar y ddau Fil, gan
gynnwys terfyn amser diwygiedig ar gyfer cyflwyno adroddiadau Ystyriaeth
Gychwynnol, sef 28 Tachwedd 2025 ar gyfer y ddau Fil. |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch yr amserlen ar gyfer Bil Iaith Arwyddion Prydain (Cymru) Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes ymateb gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a
chytunodd ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu ar Fil Iaith Arwyddion
Prydain (Cymru). |
|
|
Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes y wybodaeth ddiweddaraf gan y Trefnydd a chytunodd i wneud yr
hyn a ganlyn:
|
|
|
Pwyllgorau |
|
|
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ynghylch gwaith Pwyllgor Diben Arbennig Ymchwiliad Covid-19 Cymru Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor Busnes y llythyr. |
|
|
Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2026-27 |
|
|
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip ynghylch amserlen Cyllideb Ddrafft 2026-27 Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor Busnes amserlen y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2026-27 ac, yn unol â Rheol
Sefydlog 20.4, cytunodd i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid er mwyn ymgynghori ar
yr amserlen arfaethedig. |
|
|
Trefniadau Cyflwyno |
|
|
Trefniadau cyflwyno yn ystod toriad yr haf Cofnodion: Cadarnhaodd
y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn
ystod toriad yr haf a chytunodd ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau
Ysgrifenedig. |
|
|
Unrhyw faterion eraill Cofnodion: Gwnaeth y Llywydd atgoffa’r Rheolwyr Busnes am gyfarfod
ychwanegol y Pwyllgor Busnes yfory, pan ofynnir iddynt roi adborth gan eu
grwpiau ar faterion gweithdrefnol a drafodwyd mewn cyfarfodydd blaenorol. |
PDF 194 KB